1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002(1) ac mae cyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
2. Yn rheoliad 3(1) —
(a)ym mharagraffau (i) a (ii) o'r diffiniad o “cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd” yn lle'r geiriau “ym mhrofion y CC” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon”;
(b)yn y diffiniad o “lefel 4” a “lefel 5” yn lle'r geiriau “profion y CC” rhodder y geiriau “asesiadau gan athrawon”; ac
(c)rhodder ar ôl y diffiniad o “anghenion addysgol arbennig” y canlynol —
“ystyr “asesiadau gan athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiadau o ddisgyblion a wneir gan athrawon er mwyn penderfynu lefel y cyrhaeddiad y maent wedi'i chyflawni yn y Gymraeg, y Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, ac y gwneir darpariaeth asesu ar eu cyfer gan orchmynion neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 sydd mewn grym pan wneir yr asesiadau”.
3. Yn rheoliad 4 —
(a)hepgorer paragraff (2);
(b)ar ôl paragraff (4) rhodder:
“(5) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, rhaid i drydydd cynllun atodol ymwneud â chyfnod —
(a)o ran gosod targedau a bennir yn rheoliad 30 yn unig, y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07;
(b)o ran popeth arall, y flwyddyn ysgol 2005-06”.
4. Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (2) ychwaneger y canlynol —
“(3) Pan fydd targedau wedi'u gosod o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at gyflawniadau ym mhrofion y CC mae'r targedau hynny i'w darllen fel petai'r cyfeiriadau at gyflawniadau ym mhrofion y CC yn gyfeiriadau at gyflawniadau mewn asesiadau gan athrawon”.
5. Yn rheoliad 12 —
(a)ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”;
(b)ym mharagraff (2) ym mhob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
6. Yn rheoliad 13 —
(a)ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”; a hefyd
(b)ym mharagraff (2) o bob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
7. Yn rheoliad 30, ar ôl paragraff 1(b) rhodder:
“(c)yn y trydydd cynllun atodol, targedau ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2005