Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 20023 ac mae cyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2
Yn rheoliad 3(1) —
a
ym mharagraffau (i) a (ii) o'r diffiniad o “cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd” yn lle'r geiriau “ym mhrofion y CC” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon”;
b
yn y diffiniad o “lefel 4” a “lefel 5” yn lle'r geiriau “profion y CC” rhodder y geiriau “asesiadau gan athrawon”; ac
c
rhodder ar ôl y diffiniad o “anghenion addysgol arbennig” y canlynol —
ystyr “asesiadau gan athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiadau o ddisgyblion a wneir gan athrawon er mwyn penderfynu lefel y cyrhaeddiad y maent wedi'i chyflawni yn y Gymraeg, y Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, ac y gwneir darpariaeth asesu ar eu cyfer gan orchmynion neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 sydd mewn grym pan wneir yr asesiadau
3
Yn rheoliad 4 —
a
hepgorer paragraff (2);
b
ar ôl paragraff (4) rhodder:
5
Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, rhaid i drydydd cynllun atodol ymwneud â chyfnod —
a
o ran gosod targedau a bennir yn rheoliad 30 yn unig, y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07;
b
o ran popeth arall, y flwyddyn ysgol 2005-06
4
Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (2) ychwaneger y canlynol —
3
Pan fydd targedau wedi'u gosod o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at gyflawniadau ym mhrofion y CC mae'r targedau hynny i'w darllen fel petai'r cyfeiriadau at gyflawniadau ym mhrofion y CC yn gyfeiriadau at gyflawniadau mewn asesiadau gan athrawon
5
Yn rheoliad 12 —
a
ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”;
b
ym mharagraff (2) ym mhob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
6
Yn rheoliad 13 —
a
ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”; a hefyd
b
ym mharagraff (2) o bob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
7
Yn rheoliad 30, ar ôl paragraff 1(b) rhodder:
c
yn y trydydd cynllun atodol, targedau ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.