Search Legislation

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 426 (Cy.43)

AER GLÅN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

1 Mawrth 2005

Yn dod i rym

5 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol(2), ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 5 Mawrth 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993

2.  Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Diwygio Gorchymyn cynharach

3.  Yn y cofnod sy'n ymwneud â'r Dunsley Yorkshire Stove yn yr Atodlen i Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) 1999(3)

(a)yn y golofn o dan y pennawd “Class of fireplace”, ar ôl “Dunsley Yorkshire Stove” rhodder “and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Boiler”; a

(b)yn y golofn o dan y pennawd “Conditions”, ar ôl “bearing the reference A/22160” rhodder “, as amended by the manufacturer’s instructions dated 4 October 2004 bearing the reference D13 with regard to the Stove and Multifuel Stove and the manufacturer’s instructions dated December 2004 bearing the reference GHD/DUN4B/1 with regard to the Multifuel Stove and Boiler”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mawrth 2005

Erthygl 2

YR ATODLENDOSBARTHAU AR LEOEDD TÅN SY'N ESEMPT

Dosbarth ar le tânAmodau
Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove a wneir gan Dunsley Heat Limited

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004 a'r cyfeirnod D13W.

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire 2100 Millennium Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Hearth & Home Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 9 Hydref 2003 a'r cyfeirnod 250-6931B.

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Yosemite Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Mehefin 2003 a'r cyfeirnod 7004-187.

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.

Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Cumberland Gap Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 8 Gorffennaf 2003 a'r cyfeirnod 7006-186.

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 43.18 × 10.16 × 10.16cm.

Modelau Orchard Ovens: FVR Speciale 80, 100, 110, 110 × 160 a 120; TOP Superiore 100 a 120; GR 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; OT 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; a'r Valoriani Piccolo; a wneir gan Valoriani o Via Caselli alla Fornace, 213, 50066 Reggello, Firenze, Yr Eidal.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 25 Hydref 2004 a'r cyfeirnodau:

Cyfarwyddyd:Model
OOLInst.1:FVR 80
OOLInst.2:FVR 100
OO LInst.3:FVR 110
OOLInst.4:FVR 120
OOLInst.5:FVR 110 × 160
OOLInst.6:TOP 100
OOLInst.7:TOP 120
OOLInst.8:GR 100 ac OT 100
OOLInst.9:GR 120 ac OT 120
OOLInst.10:GR 140 ac OT 140
OOLInst.11:GR 120 × 160 ac OT 120 × 160
OOLInst.12:GR 140 × 160 ac OT 140 × 160
OOLInst.13:GR 140 × 180 ac OT 140 × 180
OOLInst.14:GR 180 ac OT 180
OOLInst.15:Valoriani Piccolo

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.

Gwresogydd Wood Waste Technology, modelau WT10 ac WT15, a wneir gan Wood Waste Technology.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2005 a'r cyfeirnod WT/a/19/1/05 o ran model WT10 neu'r cyfeirnod WT15/a/19/01/05 o ran model WT15.

2.  Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n dorbrennau caled neu feddal sydd heb eu trin.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“y Ddeddf”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gallant gael eu defnyddio at losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn o'r Atodlen honno.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn diwygio Gorchymyn cynharach a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf drwy ychwanegu at y rhestr o leoedd tân esempt sydd wedi'u gwneud gan Dunsley Heat Limited a thrwy ddiwygio'r cyfarwyddiadau sy'n gymwys i osod, cynnal a defnyddio'r lleoedd tân hynny.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources