xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
1 Mawrth 2005
Yn dod i rym
31 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 75(1) a (2) ac adran 195 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy'n darparu gofal iechyd i gorff GIG Cymru, neu sydd wedi gwneud hynny neu a fydd yn gwneud hynny(2); ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
2.—(1) Caiff y Cynulliad, neu bersonau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a ragnodwyd ym mharagraff (4) i ddarparu esboniad i'r Cynulliad neu i bersonau a awdurdodwyd felly (yn ôl y digwydd)—
(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu eitemau a arolygwyd, a gopïwyd neu a ddarparwyd o dan adrannau 72 i 74 o'r Ddeddf;
(b)unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny; neu
(c)unrhyw faterion sydd yn destun arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad o dan adran 70 o'r Ddeddf,
mewn amgylchiadau pan fo'r Cynulliad yn ystyried y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf.
(2) Caiff y Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi—
(a)yn bersonol (ac eithrio pan fo'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r esboniad yn gorff neu yn bersonau corfforaethol neu anghorfforaethol); neu
(b)yn ysgrifenedig.
(3) Pan fo'r Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, yn ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi'n bersonol, rhaid rhoi'r esboniad ar adeg ac mewn man a bennir gan y Cynulliad, a rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad rhesymol i'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r esboniad o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.
(4) Dyma'r personau rhagnodedig—
(a)corff GIG Cymru;
(b)cadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai o gorff GIG Cymru;
(c)aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor corff GIG Cymru;
(ch)darparwr gwasanaeth;
(d)cadeirydd, cyfarwyddwr neu gyflogai darparwr gwasanaeth;
(dd)person (heblaw am berson a ragnodwyd yn is-baragraff (d)) sydd yn cynorthwyo darparwr gwasanaeth wrth iddo ddarparu gofal iechyd ar gyfer corff GIG Cymru;
(e)awdurdod lleol neu aelod neu swyddog o awdurdod lleol;
(f)maer etholedig awdurdod lleol o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3);
(ff)person (heblaw am berson a ragnodwyd uchod) sydd yn cynorthwyo corff GIG Cymru wrth arfer ei swyddogaethau, neu sydd wedi gwneud hynny neu a fydd yn gwneud hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'u nodir ym Mhennod 4 o Ran 2 (“Pennod 4”) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43).
Mae rheoliad 2 yn darparu y gall y Cynulliad, neu bersonau a awdurdodwyd ganddo, gael esboniad o ddogfennau neu wybodaeth a gafwyd gan y Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Bennod 4.
Ni chynhyrchwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n effeithio ar gostau busnes.
2003 p.43. Gweler adran 148 o'r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed”.
Gweler adran 149 o'r Ddeddf am sut i ddehongli cyfeiriadau at ofal iechyd a ddarperir gan un person ar gyfer person arall. Gweler adran 45(2) o'r Ddeddf am y diffiniad o “health care”. Gweler adran 148 o'r Ddeddf am y diffiniad o “Welsh NHS body”.