Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 371 (Cy.35)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

22 Chwefror 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Y personau a'r ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal, neu i fod yn un o'r personau a benodir felly sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sydd i ddechrau ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Y swm dyddiol safonol

3.  Os bydd ymchwiliad cymwys yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, £679 fydd y swm dyddiol safonol a ragnodir gan adran 303A(5) o'r Ddeddf.

Dirymu ac arbed

4.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002(3) wedi'u dirymu, ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hymny yn gymwys iddo ac a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2005 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr awdurdod i adfer y costau a dalwyd ganddo mewn cysylltiad ag ymchwiliadau neu wrandawiadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol, cynlluniau lleol neu barthau cynllunio syml sydd ag effaith yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi swm dyddiol safonol y caniateir ei godi am bob diwrnod y mae person a benodir i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad wrthi'n ei gynnal, neu sydd fel arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig ag ef.

O ran ymchwiliad neu wrandawiad arall sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, £679 yw'r swm a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Mae hynny'n disodli'r swm o £618, a ragnodwyd ar gyfer y flwyddyn 2004/2005 gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2801) (Cy.269), ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hymny yn gymwys iddo ac a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2005 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

(1)

1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 i gael y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac y maent bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5), erthygl 4; gweler y cofnod am Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) yn Atodlen 3 i Orchymyn 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources