Search Legislation

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 363 (Cy.30)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

22 Chwefror 2005

Yn dod i rym

1 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru'n unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2005.

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995

2.—(1Diwygir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol 1995(3) yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gynmwys o ran Cymru.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats” rhodder y diffiniad canlynol -

“list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats” means the list set out in the Annex to Commission Directive 96/3/EC granting a derogation from certain provisions of Council Directive 93/43/EEC on the hygiene of foodstuffs as regards the transport of bulk liquid oils and fats by sea(4) as amended by Commission Directive 2004/4/EC amending Directive 96/3/EC granting a derogation from certain provisions of Council Directive 93/43/EEC on the hygiene of foodstuffs as regards the transport of bulk liquid oils and fats by sea(5);.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Diogewlch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763 fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC. Mae'r gyfarwyddeb honno'n diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC. Mae'r gyfarwyddeb honno'n caniatáu rhanddirymu darpariaethau penodol o Gyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC sy'n ymwneud â hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo olew a braster hylif dros y môr (OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.25) drwy roi diffiniad diwygiedig o'r ymadrodd “list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats” yn lle'r diffiniad presennol o'r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (rheoliad 2(2)). Mae'r diffiniad diwygiedig bellach yn cyfeirio at y rhestr a roddir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC (OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42) fel y'i disodlwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC.

O ran olew a braster hylif sydd i'w prosesu ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu bwyta gan bobl, mae Pennod IV o Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 yn darparu bod caniatâd i swmpgludo hwnnw ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig os yw nifer benodol o lwythi blaenorol a gludwyd yn y tanciau i gyd o'r “list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats” fel y'i diffiniwyd yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny.

Mae arfarniad rheoliadol wedi baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(3)

O.S.1995/1763, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2537; y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42.

(5)

OJ Rhif .L15, 22.1.2004, t.25.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources