- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
11 Ionawr 2005
Yn dod i rym
9 Chwefror 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i holl swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac yntau wedi ymgynghori fel yr ymddengys ei bod yn briodol iddo ei wneud yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 a daw i rym ar 9 Chwefror 2005.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr “gwladwriaeth berthnasol” (“relevant state”) yw aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC(3) ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd; ac
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005(4).
3.—(1) Mae'r Cyngor, ac yntau wedi'i ddynodi yn unol â'r Rheoliadau, i gael swyddogaeth ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.
(2) Mae'r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd am y gofynion i gydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ymhlith swyddogaethau'r Cyngor y mae sefydlu a chynnal cofrestr athrawon, cyhoeddi Cod Ymarfer, gosod safonau ymddygiad ac arferion proffesiynol a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phobl sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru a rhoi cyngor am faterion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Cyngor wedi'i bennu'n awdurdod dynodedig at ddibenion Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hynny yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb 89/48/EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am dair blynedd o leiaf. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaeth gweithredu fel awdurdod dynodedig i'r Cyngor. Ac yntau'n awdurdod dynodedig, mae'r Cyngor i ymdrin â cheisiadau oddi wrth bobl sydd wedi cymhwyso mewn gwladwriaeth berthnasol (aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a'r Swistir) am gael cydnabod eu cymwysterau proffesiynol.
Hefyd, rhoddir swyddogaeth ychwanegol i'r Cyngor, sef rhoi gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd am ofynion cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.
1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2940 (Cy.281)). Diwygiwyd adran 7(3) gan baragraff 78 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
OJ Rhif L19, 24.1.89, t.16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: