- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Ionawr 2005
Yn dod i rym
18 Ionawr 2005
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 3, ychwaneger y geiriau “, a hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu”.
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen—
(a)dileer y gair “a” ar ddiwedd paragraff 1(a);
(b)yn lle paragraff 1(b), rhodder—
“(b)teitl pob gweithgaredd dysgu y mae'r disgybl yn ei astudio; ac
(c)pa un a gafodd y disgybl ei sgrinio i ganfod unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ei raglen o weithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, pa un a oedd ei sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd—
(i)heb eu hasesu oherwydd ni chanfyddwyd unrhyw anghenion sgiliau sylfaenol wrth i'r disgybl gael ei sgrinio; neu
(ii)wedi'u hasesu, a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl—
(aa)yn is na'r lefel mynediad,
(bb)ar lefel mynediad 1,
(cc)ar lefel mynediad 2,
(chch)ar lefel mynediad 3,
(dd)ar lefel 1, neu
(dddd)yn uwch na lefel 1; neu
(iii)yn anhysbys neu gwrthododd y disgybl i gael ei asesu.”;
(c)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “Mewn perthynas â”, yn lle'r geiriau “cwrs neu weithgaredd dysgu arall”, rhodder “gweithgaredd dysgu”;
(ch)dileer y gair “ac” ar ddiwedd paragraff 2(d); a
(d)ar ôl paragraff 2(dd), rhodder y paragraff a ganlyn—
“(e)pa un a yw'r disgybl yn parhau i astudio neu a yw wedi cwblhau neu wedi tynnu yn ôl o'r gweithgaredd dysgu; ac
(f)os cwblhaodd neu os tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, y dyddiad y cwblhaodd neu y tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, a pha un a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth ragnodedig am y disgyblion sydd yn yr ysgol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, a hynny ar gais ysgrifenedig yr awdurdod.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2003 drwy:
ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r awdurdod addysg lleol sy'n ei chynnal, a hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu; ac
ymestyn rhychwant yr wybodaeth y caiff awdurdodau addysg lleol ofyn amdani am ddisgyblion y chweched dosbarth.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: