I19ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

Rheoliad 2(1)

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 1 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC11;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd12 fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid13, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl14, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid15 fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004;

  • ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac

  • ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004.

ATODLEN 2CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL

Rheoliad 2(1)

Y ffi rheolaethau swyddogol

I11

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

a

y swm o—

i

y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a

ii

unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 8; a

b

y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I22

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

2

Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

3

Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” yw cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n diweddu ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I33

Ni fydd y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yn is na 45% o'r ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw.

Rhywogaeth

Math

Cyfradd fesul math o anifail mewn Ewros

Bucholion

anifeiliaid buchol 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy

4.5

anifeiliaid buchol yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy

2.5

Equidae ac uncarnolion

4.4

Moch gan gynnwys baeddod gwyllt

pwysau carcas llai na 25 kg

0.5

pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg

1.3

Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwn

pwysau carcas llai na 12 kg

0.175

pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol

0.35

pwysau carcas mwy na 18 kg

0.5

Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daear

pob brwyliad; holl ieir cast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg

0.01

dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)

0.02

dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg

0.04

Estrysiaid ac adar di-gêl eraill

1.3

Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod

1.3

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

Y ffi safonol

I44

Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I55

Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I66

Cyfrifir y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela drwy luosi gan 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I77

Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / punnoedd sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd yr arolygiad.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I88

1

Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

2

Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

3

Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

4

Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

5

At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

a

oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;

b

torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;

c

camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan arolygydd;

ch

tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

d

darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

dd

oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac

e

unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.

6

At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

7

Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

8

Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

9

Ni ellir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I99

1

Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 8 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

2

Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 8(3).

3

Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

a

rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (4);

b

rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac

c

rhaid i'r person a enwebir, o fewn mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

4

Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

Costau amser

I1010

Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12) drwy—

a

lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir yn unol â pharagraffau 13 i 16;

b

ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac

c

ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1111

Rhaid i gostau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol gynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1212

Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, rhaid cyfrifo unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

a

yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;

b

yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac

c

yn unrhyw le arall—

i

pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a

ii

pan gaiff ei dalu o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,

fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1313

Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1414

Rhaid cyfrifo tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu—

a

cymedr y costau cyflog a'r ffioedd (gan gynnwys pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymrwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 11) a chostau eraill arfer rheolaethau swyddogol gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd; a

b

y gyfran honno o gostau gweinyddol arfer y rheolaethau swyddogol y mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn briodol ei dosrannu i'r tâl hwnnw yr awr.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1515

At ddibenion paragraff 14(b), ystyr “costau gweinyddol” yw'r holl gostau a dynnir yn rhesymol wrth arfer rheolaethau swyddogol gan gynnwys yn benodol gostau—

a

hyfforddiant ôl-gymhwyster a roddir i arolygwyr o ddosbarth penodol o ran cyflawni eu swyddogaethau fel aelod o'r dosbarth hwnnw;

b

cyflogau staff (gan gynnwys cost goramser, cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) heblaw arolygwyr sydd wrthi'n arfer rheolaethau swyddogol, a'r gyfran honno o dâl yr arolygwyr nad oes cyfrif amdani yn uniongyrchol yng nghyfrifiad costau amser;

c

darparu swyddfa, cyfarpar a gwasanaethau o ran arfer rheolaethau swyddogol, gan gynnwys dibrisiad unrhyw ddodrefn a chyfarpar swyddfa a hefyd darparu technoleg gwybodaeth, papur ysgrifennu a ffurflenni;

ch

dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer rheolaethau swyddogol a glanhau'r dillad hynny;

d

cyfrifyddu a chasglu ffioedd a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél yng nghyswllt cyflogaeth arolygwyr; a

dd

treuliau a gorbenion eraill a dynnwyd gan neu o ran—

i

arolygwyr sy'n arfer rheolaethau swyddogol, a

ii

staff eraill sydd wrthi'n gweinyddu'r rheolaethau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1616

Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 13 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 14 a 15, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

I1717

Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 13 i 16, rhaid i'r Asiantaeth ymghynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yr awr.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

DiffiniadauI1818

1

Yn yr Atodlen hon—

a

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu filfeddyg a gymeradwywyd fel y'i ddiffinir yn Erthygl 2.1(g) o Reoliad 854/2004;

b

ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 4, 5 neu 6, yn ôl y digwydd, a drosir i bunnoedd yn unol â pharagraff 7;

c

ystyr “cyfradd drosi Ewro / punnoedd” (“the Euro / sterling conversion rate”) sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—

i

am 2006, 1 Ewro = £0.68290, a

ii

ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a

ch

ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 10 i 12; a

d

mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

2

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC16) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod.