Search Legislation

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3370 (Cy.267)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

6 Rhagfyr 2005

Yn dod i rym

1 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd yn agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004 ac yn cynnwys “farmed game”, “wild game”, “small wild game”, a “large wild game” fel y'u diffinnir gan y Rheoliad hwnnw;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “costau staff lladd-dy a gytunwyd” (“agreed slaughterhouse staff costs”) o ran unrhyw ladd-dy lle cigyddir dofednod a lagomorffiaid yw—

    (a)

    y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o gyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) a delir i staff y lladd-dy hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth a gweithredydd y lladd-dy yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws

    (b)

    25% o'r swm hwnnw;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad A” (“Regulation A”), “Rheoliad B” (“Regulation B”), “Rheoliad C” (“Regulation C”), “Rheoliad D” (“Regulation D”) a “Rheoliad E” (“Regulation E”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;

  • ystyr “cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);

  • mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “gwirhad” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;

  • dehonglir “lagomorff” yn unol â'r diffiniad o'r term “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(5) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(6);

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela;

  • ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 er mwyn gwirhau cydymffurfiaeth â—

    (a)

    Erthyglau 3, 4.1(a), 5, 7 ac (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â briwgig ac wyau) 8 o Reoliad 854/2004; a

    (b)

    gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(7) i'r graddau y mae'r cyfryw wirhad yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel safle torri trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 2.1(c) o Reoliad 852/2004;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac sydd—

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995(8); ac

  • mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.

Ffioedd

3.—(1Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

(3Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

(a)os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.

(4Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

(5Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

(6Os yw swm o dan baragraph (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n dewis gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl

4.  Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y mangreoedd hynny hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth

5.—(1Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

(a)yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol at ddibenion cyfrifo ffi y rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a

(b)y dystiolaeth y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwn.

(2Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn honni cydymffurfio â pharagraff (1), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n dwyllodrus neu'n gamarweiniol mewn manylyn sylweddol; neu

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

6.  Dirymir Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998(9).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(11);

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(12) fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13), fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(14), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(15) fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004;

  • ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac

  • ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL

Y ffi rheolaethau swyddogol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

(a)y swm o—

(i)y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a

(ii)unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 8; a

(b)y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

(2Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” yw cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n diweddu ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

3.  Ni fydd y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yn is na 45% o'r ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw.

RhywogaethMathCyfradd fesul math o anifail mewn Ewros
Bucholionanifeiliaid buchol 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy4.5
anifeiliaid buchol yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy2.5
Equidae ac uncarnolion4.4
Moch gan gynnwys baeddod gwylltpwysau carcas llai na 25 kg0.5
pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg1.3
Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwnpwysau carcas llai na 12 kg0.175
pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol0.35
pwysau carcas mwy na 18 kg0.5
Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daearpob brwyliad; holl ieir cast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg0.01
dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.02
dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg0.04
Estrysiaid ac adar di-gêl eraill1.3
Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod1.3

Y ffi safonol

4.  Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

5.  Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

6.  Cyfrifir y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela drwy luosi gan 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

7.  Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / punnoedd sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd yr arolygiad.

8.—(1Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

(2Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

(3Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

(4Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

(5At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

(a)oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;

(b)torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;

(c)camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan arolygydd;

(ch)tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(d)darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(dd)oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac

(e)unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.

(6At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

(7Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

(8Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

(9Ni ellir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

9.—(1Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 8 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

(2Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 8(3).

(3Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (4);

(b)rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac

(c)rhaid i'r person a enwebir, o fewn mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(4Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser

10.  Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12) drwy—

(a)lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir yn unol â pharagraffau 13 i 16;

(b)ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac

(c)ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.

11.  Rhaid i gostau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol gynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

12.  Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, rhaid cyfrifo unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

(a)yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;

(b)yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac

(c)yn unrhyw le arall—

(i)pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a

(ii)pan gaiff ei dalu o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,

fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.

13.  Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

14.  Rhaid cyfrifo tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu—

(a)cymedr y costau cyflog a'r ffioedd (gan gynnwys pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymrwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 11) a chostau eraill arfer rheolaethau swyddogol gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd; a

(b)y gyfran honno o gostau gweinyddol arfer y rheolaethau swyddogol y mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn briodol ei dosrannu i'r tâl hwnnw yr awr.

15.  At ddibenion paragraff 14(b), ystyr “costau gweinyddol” yw'r holl gostau a dynnir yn rhesymol wrth arfer rheolaethau swyddogol gan gynnwys yn benodol gostau—

(a)hyfforddiant ôl-gymhwyster a roddir i arolygwyr o ddosbarth penodol o ran cyflawni eu swyddogaethau fel aelod o'r dosbarth hwnnw;

(b)cyflogau staff (gan gynnwys cost goramser, cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) heblaw arolygwyr sydd wrthi'n arfer rheolaethau swyddogol, a'r gyfran honno o dâl yr arolygwyr nad oes cyfrif amdani yn uniongyrchol yng nghyfrifiad costau amser;

(c)darparu swyddfa, cyfarpar a gwasanaethau o ran arfer rheolaethau swyddogol, gan gynnwys dibrisiad unrhyw ddodrefn a chyfarpar swyddfa a hefyd darparu technoleg gwybodaeth, papur ysgrifennu a ffurflenni;

(ch)dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer rheolaethau swyddogol a glanhau'r dillad hynny;

(d)cyfrifyddu a chasglu ffioedd a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél yng nghyswllt cyflogaeth arolygwyr; a

(dd)treuliau a gorbenion eraill a dynnwyd gan neu o ran—

(i)arolygwyr sy'n arfer rheolaethau swyddogol, a

(ii)staff eraill sydd wrthi'n gweinyddu'r rheolaethau hynny.

16.  Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 13 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 14 a 15, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

17.  Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 13 i 16, rhaid i'r Asiantaeth ymghynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yr awr.

Diffiniadau

18.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu filfeddyg a gymeradwywyd fel y'i ddiffinir yn Erthygl 2.1(g) o Reoliad 854/2004;

(b)ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 4, 5 neu 6, yn ôl y digwydd, a drosir i bunnoedd yn unol â pharagraff 7;

(c)ystyr “cyfradd drosi Ewro / punnoedd” (“the Euro / sterling conversion rate”) sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—

(i)am 2006, 1 Ewro = £0.68290, a

(ii)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a

(ch)ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 10 i 12; a

(d)mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC(16)) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/1302 (Cy.79) ac O.S. 2001/3831 (Cy.317)), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yr oedd Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 yn rhoi ar waith o ran Prydain Fawr ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau a rheolaethau milfeddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd yn cael eu casglu am arolygiadau o gig coch ffres, cig dofednod ffres, cig cwningod, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Gyfarwyddebau penodol y Cyngor. Atodir testun diwygiedig ac a gydgrynhowyd o Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1.

3.  Yng ngoleuni diwygiadau i drefn y Gymuned ar lywodraethu hylendid bwyd sy'n dod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2006, Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33; mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12), addesir Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen fel bydd yn ofynnol o'r dyddiad hwnnw ymlaen gasglu ffioedd am reolaethau swyddogol ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

4.  Yng ngoleuni'r addasiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC a ddisgrifir ym mharagraff 3, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd i'w casglu am arolygiadau ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol o'r ffi rheolaethau swyddogol sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dy”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);

(b)yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);

(c)yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—

(i)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a

(ii)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad y dystiolaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);

(d)yn darparu bod person sydd—

(i)wrth ymateb i hawliad am wybodaeth neu dystiolaeth gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu gamarweiniol, neu

(ii)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

6.  Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gosod sut y mae cyfrifo ffi'r rheolaethau swyddogol.

7.  Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr Offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(5)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).

(6)

O.S. 1995/540, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).

(8)

O.S. 1995/2148, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).

(10)

1998 p.38.

(11)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(12)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(13)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(14)

OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(15)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(16)

Mae testun Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC wedi cael ei atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. Addaswyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33); mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources