- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
6 Rhagfyr 2005
Yn dod i rym
1 Ionawr 2006
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn—
(1) Yn rheoliad 2(2), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
“(2) Any reference in these Regulations to a Community instrument is a reference to that instrument as amended on the date the Common Agricultural Policy Single Payment and Support Schemes (Cross Compliance) (Wales) (Amendment) Regulations 2005 are made.”.
(2) Yn rheoliad 3, rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
“3. The National Assembly is designated as the competent national authority for the purposes of Article 3(2) of the Council Regulation.”.
(3) Yn rheoliad 4(1), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
“The standards of good agricultural and environmental condition set out in the Schedule apply as minimum requirements for the purposes of Article 5(1) of the Council Regulation.”.
(4) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (2)(a), yn lle “a right”, rhodder “the power”;
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “may only do so”, rhodder “has the power to”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “may”, rhodder “has the power to”;
(ch)yn rheoliad 7(4), y tro cyntaf y ceir “may”, rhodder “has the power to”.
(5) Yn lle paragraff 1 o'r Atodlen, rhodder—
1.—(1) A farmer must, subject to sub-paragraph (3), complete a soil assessment record booklet.
(2) The soil assessment record booklet must—
(a)be completed annually on or before the 31 January;
(b)accurately reflect the position on the holding as of 1 January of the calendar year;
(c)be signed and dated upon completion;
(d)be updated as and when necessary; and
(e)be made available to staff of the National Assembly upon request.”.
(3) If a farmer has completed a resource management plan in accordance with the requirements of the Tir Cynnal (Wales) 2006 Regulations(4) then the farmer does not have to comply with the other provisions of this regulation.”.
(6) Ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen, cyn “(d)” dileer “or”, ar ôl “provided” rhodder “;” yn lle “.” ac ychwaneger—
“or
(e)avoid poaching that leads to soil run off into watercourses.”.
(7) Ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen—
yn lle “or (4)” rhodder “,(4) or (5)”.
(8) Yn lle paragraff 12(3) o'r Atodlen, rhodder—
“(3) A farmer may carry out hedge-laying and coppicing—
(a)during the period beginning on 1 March and ending on 31 March if the farmer does not disturb any birds nesting in the hedgerow; or
(b)during the period beginning on 1 March and ending on 30 April if the National Assembly has given the farmer written permission to do so because it considers that cutting or trimming is necessary for purposes of a competition or training event.”.
(9) Ym mharagraff 12(4)—
ar ôl “laid” rhodder “;” yn lle “.” ac ychwaneger
“(5) A farmer may cut or trim a hedgerow on arable land during August if the farmer is planting winter arable crops on that land as part of the farmer’s normal farming practice.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Rhagfyr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004 (“y Prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(1) yn diweddaru cyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol yn y Prif Reoliadau i fod yn gyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol fel y'u diwygiwyd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.
Mae rheoliadau 2(2), (3) a (4) yn cywiro mân wallau drafftio.
Mae rheoliad 2(4) yn egluro pwerau personau awdurdodedig yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau.
Mae Rheoliad 2(5) yn cyflwyno safon newydd o ran cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da (“CAAD”) ac yn disodli'r gofyniad blaenorol i ffermwr lenwi ffurflen wirio ynghylch rheoli pridd yn 2005. Yn ôl y gofyniad newydd rhaid i ffermwr gwblhau llyfryn cofnodi asesiadau o'r pridd. Rhaid i'r llyfryn hwn gael ei ddiweddaru gan y ffermwr a'i roi ar gael i staff y Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir iddo wneud hynny. Caiff ffermwr ei esemptio rhag y rhwymedigaeth hon os bydd wedi cwblhau [cynllun rheoli adnoddau o dan Reoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2005].
Mae rheoliad 2(6) yn diwygio'r safon CAAD o ran gorbori a dulliau porthi atodol anaddas (“overgrazing and unsuitable supplementary feeding methods”) i atal sathru difrifol sy'n peri i bridd redeg i mewn i gyrsiau dŵr.
Mae rheoliadau 2(7) a 2(9) yn diwygio'r safonau CAAD o ran gwrychoedd neu berthi (“hedgerows”). Os bydd ffermwr yn caniatáu i gystadleuaeth neu ddigwyddiad hyfforddi gael ei chynnal neu ei gynnal ar ei fferm rhwng 1 Mawrth a 30 Ebrill a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol, caiff y ffermwr blygu gwrychoedd a pherthi a choedlannu. Caniateir bellach i ffermwr sy'n plannu cnydau gaeaf âr ar dir âr dorri neu docio gwrychoedd neu berthi perthnasol ar y tir hwnnw yn ystod mis Awst.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: