25.—(1) Wrth ystyried y gwyn ymhellach, caiff y panel fabwysiadu unrhyw weithdrefnau y mae ef yn penderfynu mai hwy yw'r rhai mwyaf priodol ar gyfer ymdrin â'r gwyn.
(2) Cyn i'r panel benderfynu i fabwysiadu gweithdrefn ar gyfer ymdrin â'r gwyn rhaid iddo ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson sy'n destun y gwyn.
(3) Os bydd unrhyw anghydfod yn codi ynghylch y weithdrefn sydd i'w mabwysiadu ar gyfer ymdrin â'r gwyn bydd penderfyniad cadeirydd y panel yn derfynol.
(4) Caiff y panel wneud unrhyw ymholiadau a chymryd unrhyw gyngor y mae'n penderfynu eu bod yn briodol.
(5) Rhaid i'r panel sicrhau y rhoddir i'r achwynydd ac i unrhyw berson sy'n destun y gwyn y cyfle i gyflwyno eu hachos ar lafar, neu'n ysgrifenedig os dyna'u dymuniad.
(6) Caiff y panel neu aelod o'r panel gyf-weld unrhyw berson ac eithrio'r achwynydd neu destun y gwyn os yw'r panel o'r farn y gallant ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwyn.
(7) Mewn unrhyw gyfweliad neu gyfarfod ag aelod o'r panel caniateir i'r achwynydd ac i unrhyw berson sy'n destun y gwyn ddod â pherthynas neu ffrind, ac unrhyw berson a ddewisir ganddynt i weithredu fel cynghorydd, yn gwmni iddynt.
(8) Caiff person sy'n dod yn gwmni i achwynydd neu i berson sy'n destun y gwyn siarad â'r panel, gyda chydsyniad cadeirydd y panel.
(9) Cyfarfod preifat fydd unrhyw gyfarfod o'r panel neu gyfarfod rhwng unrhyw aelod o'r panel ac un arall neu rhwng aelod o'r panel ac achwynydd neu unrhyw berson sy'n destun y gwyn.