Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydweithredu â'r Cynulliad
23.—(1) Pan ofynnir am wrandawiad gan banel annibynnol o dan reoliad 22(1) rhaid i'r awdurdod lleol sy'n destun y gwyn ddarparu unrhyw gymorth y gellir yn rhesymol fod ei angen er mwyn galluogi'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2) Mae'r cymorth y gall fod ei angen o dan baragraff (1) yn cynnwys cynhyrchu gwybodaeth neu ddogfennau sy'n berthnasol i gwyn er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a allai fel arall wahardd cynhyrchu gwybodaeth neu ddogfennau o'r fath neu gyfyngu ar eu cynhyrchu.