xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN VIGWRANDAWIAD GAN Y PANEL ANNIBYNNOL

Y Panel Annibynnol

21.—(1Rhaid i'r Cynulliad gymryd unrhyw gamau y mae'n eu hystyried yn rhesymol, gan gynnwys mewn cysylltiad â threfniadau gweinyddol ac ariannol, i sefydlu panel i ystyried cwynion ymhellach o dan y Rhan hon.

(2Yn benodol rhaid i'r Cynulliad baratoi a chadw'n gyfredol ddwy restr o bersonau sydd yn ei farn ef yn addas i ystyried cwynion ymhellach o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i'r personau a benodir i un o'r rhestrau a sefydlir o dan baragraff (2) fod â phrofiad o ddarparu gwasanaethau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu darparu neu y caiff awdurdodau lleol eu darparu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(1) neu wasanaethau sy'n debyg i wasanaethau o'r fath (“y rhestr o bersonau a chanddynt brofiad o'r gwasanaethau cymdeithasol”). Ni ddylai fod gan y personau a bennir i'r rhestr arall (“y rhestr o bersonau lleyg”) brofiad o'r fath.

(4Nid yw person i'w ystyried yn addas ar gyfer ei benodi o dan baragraff (2) os yw'n cael ei gyflogi gan, neu os yw'n aelod etholedig o, awdurdod lleol yng Nghymru.