Gwneud cwyn
15.—(1) Pan fo person yn dymuno gwneud cwyn o dan y Rheoliadau hyn, caiff wneud cwyn i unrhyw aelod o staff yr awdurdod lleol sydd wedi'i gyflogi neu wedi'i gymryd ymlaen mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
(2) Caniateir gwneud cwyn o dan baragraff (1) ar lafar neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys ei gwneud yn electronig).