xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IIINATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN GWYNION

Materion y caniateir gwneud cwynion yn eu cylch

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caniateir i gwyn i awdurdod lleol fod am y modd y caiff ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eu harfer gan gynnwys—

(a)cyflawni gan awdurdod lleol unrhyw un o'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

(b)darparu gwasanaethau gan berson arall yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod o'r fath wrth iddo gyflawni'r swyddogaethau hynny;

(c)darparu gwasanaethau gan awdurdod o'r fath neu gan unrhyw berson arall yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999(1) mewn perthynas â swyddogaethau un o gyrff y GIG (o fewn yr ystyr yn yr adran honno).

(2Ni chaniateir gwneud cwyn o dan y rheoliadau hyn am arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 33, 34, 35, 43, 44 a 47 o Ddeddf Plant 1989.