xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IVGWEITHIO GYDAG ASIANTAETHAU ERAILL

Cwynion y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hwy

13.—(1Mewn unrhyw achos pan ymddengys i'r swyddog cwynion bod cwyn neu y gallai cwyn fod yn un sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau gan fwy nag un awdurdod lleol (cwyn y mae mwy nag un corff yn ymwneud â hi) rhaid i'r swyddog cwynion, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—

(a)hysbysu'r corff arall neu'r cyrff eraill sy'n ymwneud â'r gwyn ac ystyried ar y cyd â swyddog cwynion pob un o'r cyrff pa gorff a ddylai arwain y gwaith o ymdrin â'r gwyn; a

(b)hysbysu'r achwynydd o'u penderfyniad.

(2Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol sy'n arwain—

(a)sicrhau bod unrhyw ran o'r gwyn sy'n ymwneud â gweithredoedd yr awdurdod lleol yn cael ei hystyried o dan y rhan hon o'r Rheoliadau;

(b)sicrhau y rhoddir gwybod i'r achwynydd sut mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo;

(c)sicrhau bod yr ymateb y mae ei angen o dan reoliad 20 i'r graddau y mae'n ymarferol yn cynnwys ymateb ar unrhyw fater a oedd o fewn cwmpas cyfrifoldeb neu reolaeth unrhyw gorff arall a grybwyllir ym mharagraff (1).

(3Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol nad yw'n arwain—

(a)sicrhau bod unrhyw ran o'r gwyn sy'n ymwneud â gweithredoedd yr awdurdod lleol yn cael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)rhoi gwybod i swyddog cwynion y corff sy'n arwain am unrhyw benderfyniad a wneir ar y gwyn o dan reoliad 18, neu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad o dan reoliad 19.

Ymdrin â chwynion safonau gofal

14.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef neu â hi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), rhaid i'r awdurdod lleol y mae cwyn o'r fath yn dod i'w law, o fewn 2 ddiwrnod i'r gwyn ddod i law—

(a)anfon manylion am y gwyn gyfan neu am y rhan honno o'r gwyn sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cofrestredig at y person a gofrestrwyd fel darparwr y gwasanaeth hwnnw;

(b)gofyn i'r person yr anfonir ato fanylion o dan is-baragraff (a) hysbysu'r awdurdod o fewn 10 niwrnod gwaith o ganlyniad ei ystyriaeth o'r gwyn; a

(c)hysbysu'r achwynydd o'r camau sydd wedi'u cymryd o dan is-baragraffau (a) a (b).

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw cwyn eisoes wedi'i hystyried gan y person cofrestredig; neu

(b)os yw'r awdurdod lleol o'r farn y byddai mynd ymlaen o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu'r ymchwiliad i'r gwyn o dan Ran V o'r Rheoliadau neu y byddai'n peryglu neu'n rhagfarnu ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Mewn unrhyw achos pan fo cwyn yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y gwyn o dan reoliad 18.