xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3365 (Cy.262)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

6 Rhagfyr 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24D(1A), 24D(2), 26(3A)(b), 26(4A), 26(5), 26(5A), 26(6), 26A(3), 59(5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 6 o Atodlen 7 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos disgyblu” (“disciplinary proceedings”) yw unrhyw weithdrefn ar gyfer disgyblu cyflogeion a gaiff ei mabwysiadu gan awdurdod lleol;

ystyr “achwynydd” (“complainant”) yw person sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu berson sy'n dod o dan adran 26(a) i (e) o'r Ddeddf, neu berson syn gwneud sylwadau o dan baragraff 6 o Atodlen 7 i'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd San Steffan, yn Ddydd Gwener y Groglith, neu'n ddiwrnod sy'n wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “eiriolwr” (“advocate”) yw person sy'n darparu cymorth o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;

ystyr “person annibynnol” (“independent person”) yw'r person, ac yntau heb fod yn un o aelodau nac yn un o swyddogion yr awdurdod lleol, sy'n cymryd rhan yn yr ystyriaeth o'r sylwadau ac mewn unrhyw drafodaethau dilynol, yn unol ag adran 26(4) o'r Ddeddf;

ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991(4);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli (Plant) (Cymru) 2004(5)”;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth—

(a)

os yw swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 10(3) ar gyfer yr ardal lle y lleolir y sefydliad neu'r asiantaeth, yw y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd eraill y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “swyddog cwynion” (“complaints officer”) yw'r person a benodir o dan reoliad 5;

ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau o dan adran 24D neu adran 26 o'r Ddeddf neu baragraff 6(2) o Atodlen 7 iddi;

ystyr “ystyried sylwadau” (“to consider representations”) yw ystyried sylwadau o dan y weithdrefn a geir yn y Rheoliadau hyn.

(2Mae unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i'w roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â sylwadau

3.—(1Rhaid i unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan y Ddeddf gael ei gweithredu'n unol â'r egwyddor y dylai lles yr achwynydd, pan wneir sylwadau gan berson y mae adran 24D neu 26(3)(a) yn gymwys iddo, gael ei ddiogelu a'i hybu.

(2Pan ellir canfod beth ydynt, dylid ystyried dymuniadau a theimladau'r achwynydd.

RHAN IISEFYDLU'R WEITHDREFN SYLWADAU

Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion

4.  Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog i fod yn gyfrifol am geisio sicrhau y cydymffurfir â'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.

Swyddog cwynion

5.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel swyddog cwynion, i reoli'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r sylwadau a'u hystyried ac yn benodol—

(a)i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion o dan y Rheoliadau hyn;

(b)i gyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a fynnir gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â sylwadau; ac

(c)i gydweithredu ag unrhyw bersonau neu gyrff eraill ag y gall fod yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio i sylwadau.

(2Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion.

(3Caniateir i swyddog cwynion—

(a)bod yn berson nad yw'n un o gyflogeion yr awdurdod lleol; a

(b)cael ei benodi'n swyddog cwynion ar gyfer mwy nag un corff.

Gwybodaeth a hyfforddiant i staff

6.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y caiff ei staff eu hysbysu ynghylch gweithredu'r weithdrefn sylwadau ac y cânt eu hyfforddi'n briodol i'w gweithredu.

RHAN IIINATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN SYLWADAU

Cwmpas y weithdrefn sylwadau

7.  Mae swyddogaethau canlynol awdurdod lleol yn swyddogaethau cymwys at ddibenion adran 26(3) o'r Ddeddf—

(a)swyddogaethau o dan adran 31;

(b)swyddogaethau o dan adran 33;

(c)swyddogaethau o dan adran 34;

(ch)swyddogaethau o dan adran 35;

(d)swyddogaethau o dan adran 43;

(dd)swyddogaethau o dan adran 44; ac

(e)swyddogaethau o dan adran 47.

Sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol

8.—(1Pan fo sylwadau'n ymwneud ag unrhyw fater—

(a)y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu dwyn achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys yn ei gylch, neu

(b)y mae'r awdurdod lleol yn dwyn achos disgyblu neu'n bwriadu dwyn achos disgyblu yn ei gylch, neu

(c)y mae'r awdurdod lleol wedi'i hysbysu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal iddo gan unrhyw berson neu gorff gyda'r bwriad o ddwyn achos troseddol, neu

(ch)y galwyd cyfarfod yn ei gylch o gyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion hawdd eu niweidio, neu

(d)yr hysbyswyd yr awdurdod lleol yn ei gylch, fod ymchwiliadau cyfredol yn mynd rhagddynt gyda'r bwriad o ddwyn achosion o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(6),

rhaid i'r awdurdod lleol ystyried, drwy ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson neu gorff arall y mae'n briodol ymgynghori ag ef ym marn yr awdurdod, sut y dylid ymdrin â'r sylwadau. Cyfeirir at sylwadau o'r fath at ddibenion y rheoliad hwn fel “sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol”.

(2Caniateir rhoi'r gorau i ystyried sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol os ymddengys i'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg y byddai parhau i'w hystyried yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

(3Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu rhoi'r gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad hwnnw.

(4Pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gorau i ystyried unrhyw sylwadau o dan baragraff (2), caiff fynd yn ôl i'w hystyried ar unrhyw adeg.

(5Pan roddwyd y gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod ganfod a yw'r ystyriaeth gydredol yn mynd rhagddi a rhaid iddo hysbysu'r achwynydd pan fydd wedi dod i ben.

(6Rhaid i'r awdurdod lleol fynd yn ôl i ystyried unrhyw sylwadau pan roddir y gorau i'r ystyriaeth gydredol neu os daw'r ystyriaeth gydredol i ben a bod yr achwynydd yn gofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried o dan y Rheoliadau hyn.

Sylwadau y mae'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried

9.  Pan fyddai'r sylwadau'n rhai y byddai'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried, rhaid iddynt gael eu hystyried gan—

(a)yr awdurdod sy'n gofalu neu a oedd yn gofalu am y plentyn y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef neu a oedd yn gofalu am y cyn-blentyn y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef; neu

(b)pan nad oes gan neu pan nad oedd gan unrhyw awdurdod y cyfrifoldeb hwnnw, gan yr awdurdod y mae'r plentyn yn preswylio'n arferol neu yr oedd y plentyn yn preswylio'n arferol ddiwethaf yn ei ardal.

Ymdrin â sylwadau safonau gofal

10.—(1Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fydd sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu â hi o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu Ddeddf Plant 1989, rhaid i'r awdurdod lleol y daw sylwadau o'r fath i'w law, o fewn 2 ddiwrnod gwaith i'r sylwadau ddod i law—

(a)anfon manylion am y sylwadau cyfan neu am y rhan honno o unrhyw sylw sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cofrestredig at y person a gofrestrwyd fel darparwr mewn cysylltiad â'r sefydliad hwnnw neu'r asiantaeth honno;

(b)gofyn i'r person yr anfonir ato fanylion o dan is-baragraff (a) hysbysu'r awdurdod o fewn 10 niwrnod gwaith o ganlyniad ei ystyriaeth o'r gŵyn; a

(c)hysbysu'r achwynydd o'r camau sydd wedi'u cymryd o dan is-baragraffau (a) a (b).

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo sylwadau eisoes wedi'u hystyried gan y person cofrestredig; neu

(b)pan fo'r awdurdod lleol o'r farn y byddai mynd ymlaen o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu'r ymchwiliad i'r sylwadau o dan Ran IV o'r Rheoliadau neu y byddai'n peryglu neu'n rhagfarnu ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol (“appropriate office”) y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y sylwadau o dan reoliad 15.

RHAN IVYMDRIN Å SYLWADAU A'U HYSTYRIED

Gwneud sylwadau

11.  Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys eu gwneud yn electronig).

Dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynwyr

12.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl i'r sylwadau ddod i law rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)darparu'r canlynol ar gyfer yr achwynydd—

(i)manylion y weithdrefn a geir yn y Rheoliadau hyn; a

(ii)gwybodaeth am wasanaethau eirioli, pan fo'n briodol; a

(b)cynnig i'r achwynydd—

(i)cymorth a chanllawiau ynghylch dilyn y weithdrefn neu ei gynghori ym mha le y gall eu cael; a

(ii)cymorth i gael eiriolwr, pan fo'n briodol.

Sylwadau a wneir gan “bersonau eraill” (“other persons”) o dan adran 26(3)(e) o'r Ddeddf

13.—(1Pan ddaw sylwadau gan achwynydd sy'n dod o fewn adran 26(3)(e) o'r Ddeddf i law'r awdurdod lleol, rhaid iddo benderfynu, cyn gynted â phosibl, a oes gan y person hwnnw fuddiant digonol yn lles y plentyn o dan sylw i warantu bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau.

(2Wrth ddod i benderfyniad o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ystyried barn y plentyn pan ellir canfod beth ydyw.

(3Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod gan yr achwynydd fuddiant digonol yna rhaid iddo ystyried y sylwadau.

(4Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan yr achwynydd fuddiant digonol yna rhaid iddo hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad a'i hysbysu na chymerir unrhyw gamau pellach i ystyried y sylwadau.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r plentyn o dan sylw o'r penderfyniad a wneir o dan baragraff (1) os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny o ystyried beth yw dealltwriaeth y plentyn.

Tynnu sylwadau'n ôl

14.—(1Caiff yr achwynydd neu eiriolwr dynnu sylwadau'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol ysgrifennu cyn gynted â phosibl at yr achwynydd ac at unrhyw eiriolwr i gadarnhau bod y sylwadau wedi'u tynnu'n ôl.

Penderfynu'n Lleol

15.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i benderfynu ar y sylwadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), o fewn 10 niwrnod gwaith gan gychwyn—

(a)yn achos sylwadau sy'n dod o fewn adran 26(3)(e), ar y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn penderfynu bod gan yr achwynydd fuddiant digonol i warantu bod y sylwadau'n cael eu hystyried;

(b)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad y daeth y sylwadau i law'r awdurdod lleol.

(2Caniateir estyn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) pan geir cais gan yr achwynydd am wneud hynny neu gyda chytundeb yr achwynydd hyd at 10 niwrnod gwaith ychwanegol.

(3Nid oes angen i'r weithdrefn a ddilynir gan yr awdurdod lleol pan fydd yn ceisio penderfynu ar faterion o dan baragraff (1) gynnwys person annibynnol.

(4Pan fo achwynydd wedi gofyn am eiriolwr caiff yr awdurdod lleol estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) hyd at 10 niwrnod gwaith ychwanegol er mwyn galluogi eiriolwr i gael ei benodi ar yr amod—

(a)bod yr awdurdod lleol yn hysbysu'r achwynydd o'r estyniad;

(b)bod yr awdurdod lleol yn hysbysu'r achwynydd—

(i)o'r camau a gymerwyd hyd y dyddiad hwnnw i drefnu eiriolwr; a

(ii)o hawl yr achwynydd i fynnu cael ystyried y sylwadau heb gynnwys eiriolwr.

(5At ddibenion paragraff (1), mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y sylw.

(6Os penderfynir ar y sylw o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod lleol roi cadarnhad ysgrifenedig i'r achwynydd o'r penderfyniad y cytunir arno.

(7Os na phenderfynwyd ar y sylwadau o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r achwynydd yn ysgrifenedig:

(a)o hawl yr achwynydd i ofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol;

(b)o'r weithdrefn ar gyfer gofyn am ystyriaeth bellach o'r fath; ac

(c)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath gan roi sylw i ddarpariaethau paragraff (8).

(8Caiff yr achwynydd ofyn ar lafar neu'n ysgrifenedig am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol o dan reoliad 16, a hynny ar unrhyw adeg o fewn 30 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y gwnaed y sylwadau gyntaf.

Ystyriaeth Ffurfiol

16.—(1Pan fo'r achwynydd wedi gofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol, yn ddarostyngedig i reoliadau 8, 9 a 10, rhaid i'r awdurdod lleol ymchwilio i'r sylwadau i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol ac yn y dull mwyaf priodol ym marn yr awdurdod ar gyfer penderfynu ar y sylwadau'n gyflym ac yn effeithlon.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cofnod ysgrifenedig ffurfiol o'r sylwadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a'i anfon at yr achwynydd ynghyd â gwahoddiad i'r achwynydd wneud sylwadaeth ar ba mor gywir yw'r cofnod.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadaethau a wneir gan yr achwynydd o dan baragraff (2) a rhaid iddo, yng ngoleuni'r sylwadaethau hynny, wneud unrhyw ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i'r cofnod er mwyn sicrhau ei fod, ym marn yr awdurdod, yn gofnod cywir o'r sylwadaethau.

(4Ac eithrio pan wnaed trefniadau o dan reoliad 15(5), caiff yr awdurdod lleol, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y sylwadau.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)egluro i'r achwynydd sut yr ymchwilir i'r sylwadau; a

(b)anfon copi o'r sylwadau at unrhyw berson sy'n destun y sylwadau—

(i)oni wnaed hyn eisoes; neu

(ii)oni fyddai rhoi hysbysiad ar yr adeg honno'n rhagfarnu'r ystyriaeth o'r sylwadau.

(6Caiff yr awdurdod lleol—

(a)gwahodd yr achwynydd ac unrhyw berson arall a allai ym marn yr awdurdod gynorthwyo gyda phenderfynu ar y sylwadau i gael eu cyf-weld; a

(b)gofyn am unrhyw gyngor sy'n ofynnol ym marn y swyddog cwynion.

(7Pan gaiff unrhyw berson ei gyf-weld yn unol â pharagraff 6(a) rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)anfon copi o'r cofnod drafft o'r cyfweliad at y person a gafodd ei gyf-weld;

(b)gwahodd y person hwnnw i ddatgan pa mor gywir yw'r cofnod drafft;

(c)ystyried unrhyw sylwedaethau a wneir gan y person; ac

(ch)yng ngoleuni'r sylwadaethau hynny, gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r cofnod sy'n angenrheidiol ym marn yr awdurdod er mwyn sicrhau bod y cofnod yn un cywir.

(8Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i roi gwybod i'r achwynydd am hynt ei ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau.

Penodi person annibynnol

17.—(1Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan reoliad 16 gynnwys penodi person annibynnol.

(2Rhaid i'r person annibynnol gymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o sylwadau gan yr awdurdod lleol o dan reoliad 16.

(3Rhaid i'r person annibynnol gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau a gynhelir gan yr awdurdod lleol ynghylch y cam i'w gymryd yng ngoleuni ei ganfyddiadau mewn perthynas â'r sylwadau a'r casgliadau y mae'n dod iddynt.

Ymateb

18.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol baratoi ymateb ysgrifenedig i'r sylwadau—

(a)sy'n crynhoi natur a sylwedd y sylwadau;

(b)sy'n disgrifio'r ymchwiliad o dan reoliad 16 ac yn crynhoi'r casgliadau;

(c)sy'n egluro pa gam a fydd yn cael ei gymryd i benderfynu ar y sylwadau;

(ch)sy'n cynnwys ymddiheuriad i'r achwynydd, pan fo'n briodol, a

(d)sy'n nodi pa gam arall, os o gwbl, a fydd yn cael ei gymryd yng ngoleuni'r sylwadau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 13, rhaid anfon yr ymateb at yr achwynydd o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y daeth cais gan yr achwynydd am ystyriaeth ffurfiol i law'r awdurdod lleol.

(3Os, yn achos—

(a)unrhyw sylwadau pan gafwyd anhawster i benderfynu ar eu natur neu eu sylwedd;

(b)sylwadau yr ymdriniwyd â hwy fel sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol o dan reoliad 8; neu

(c)unrhyw sylwadau eraill pan fo'r achwynydd wedi cytuno i'r ymateb fod yn hwyrach,

nad yw'n bosibl anfon yr ymateb o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r rheswm am yr oedi, o'r dyddiad y mae'n disgwyl anfon yr ymateb a rhaid iddo anfon yr ymateb hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid i'r ymateb gynnwys gwybodaeth am—

(a)hawl yr achwynydd i ofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach gan banel annibynnol yn unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf(7);

(b)y weithdrefn ar gyfer gofyn am ystyriaeth bellach o'r fath; ac

(c)o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath.

(5Rhaid anfon copïau o'r ymateb a baratoir yn unol â pharagraff (1)—

(a)at eiriolwr yr achwynydd;

(b)at y person annibynnol a benodir o dan reoliad 17;

(c)at unrhyw berson oedd yn destun y sylwadau;

(ch)os sylwadau safonau gofal a grybwyllir yn rheoliad 10 yw'r sylwadau, at y person a gofrestrir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu Ddeddf Plant 1989 fel darparwr mewn cysylltiad â'r sefydliad neu'r asiantaeth.

RHAN VDYSGU O SYLWADAU

Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn sylwadau

19.  Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn drwy gadw cofnod o bob un o'r sylwadau a ddaeth i law, o ganlyniad pob un o'r sylwadau, a pha un a gydymffurfiwyd â'r terfynau amser a bennir yn rheoliadau 15 a 18.

Adroddiad Blynyddol

20.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad o ran ymdrin â sylwadau a'u hystyried, a hynny at ddibenion—

(a)monitro'r modd y cydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn, a

(b)gwella'r modd yr ymdrinnir â'r sylwadau ac y'u hystyrir.

(2Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.

RHAN VIDARPARIAETHAU TROSIANNOL A DIRYMU

Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

21.—(1Pan na orffennwyd ystyried y sylwadau hyn yn unol â Rheoliadau 1991 ar yr adeg pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym yna bydd y paragraffau canlynol yn gymwys i'r weithdrefn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) bydd y sylwadau'n cael eu hystyried yn unol â Rheoliadau 1991 yr arbedwyd eu darpariaethau perthnasol at y diben hwnnw'n unig.

(3Os bod yr achwynydd, yn unol â rheoliad 8(2) o Reoliadau 1991, wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ond nad oes panel wedi'i benodi yn unol â'r rheoliad hwnnw, yna rhaid i'r awdurdod lleol drin hysbysiad yr achwynydd fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach yn unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

(4Os bydd yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 8(1) o Reoliadau 1991 ac nad yw'r achwynydd wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ac nad yw'r amser ar gyfer rhoi hysbysiad o'r fath wedi dod i ben, yna rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'r achwynydd yn ei roi fod yn gais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach, neu fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach y mae'n rhaid ei drin, a hynny'n unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

Dirymu

22.—(1Dirymir Rheoliadau'r Weithdrefn Sylwadau (Plant) 1991(8) ac eithrio i'r graddau sy'n angenrheidiol at ddibenion rheoliad 21.

(2Dirymir rheoliad 4(2) o Reoliadau Gwasanaethau Eiriolaeth a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004(9)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Deddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'r darpariaethau ar gyfer y gweithdrefnau o dan Ddeddf Plant 1989 (y Ddeddf) ar gyfer ystyried sylwadau, gan gynnwys cwynion.

Y canlynol yw'r prif wahaniaethau rhwng y gweithdrefnau a sefydlwyd o dan Reoliadau 1991 a'r rhai a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn: estyn swyddogaethau awdurdodau lleol y gellir gwneud sylwadau arnynt o dan adran 26 (maent wedi'u cyfyngu hyd yn hyn i swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf)(rheoliad 7); cyflwyno gofyniad am i awdurdodau lleol geisio penderfynu'n anffurfiol ar yr holl sylwadau o dan weithdrefn y Ddeddf (ar hyn o bryd dim ond i sylwadau a wneir o dan adran 24D y mae penderfynu'n lleol yn gymwys) (rheoliad 15); a dileu'r cam o'r weithdrefn y mae panel ynghlwm wrtho (caniateir yn lle hynny ystyriaeth bellach o sylwadau achwynwyr gan banel annibynnol a sefydlir o dan reoliadau ar wahân a wneir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf).

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ddynodi swyddog hyn a chanddo gyfrifoldebau mewn perthynas â sylwadau ac mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benodi swyddog cwynion.

Mae rheoliad 6 yn gosod gofynion o ran hyfforddi staff awdurdod lleol.

Mae rheoliad 8 yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sut y mae'n rhaid ymdrin â sylwadau pan fo person neu gorff arall yn eu hystyried ar yr un pryd. Mae hyn y caniatáu i'r awdurdod lleol atal ystyriaeth dros dro pe byddai parhau â hi'n peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer penderfynu pa awdurdod lleol fydd yn ystyried sylwadau pan fo mwy nag un yn ymwneud â'r mater.

Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 11) a chaniateir eu tynnu'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 14).

Un o'r categorïau o bobl a gaiff wneud sylwadau o dan adran 26 o Ddeddf 1989, yn unol ag adran 26(3)(e), yw unrhyw bersonau eraill (ond nid y plentyn, y rhiant, y rhiant maeth neu berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn) y mae ganddynt, ym marn yr awdurdod lleol, fuddiant digonol yn lles y plentyn i warantu bod sylw'r person hwnnw'n cael ei ystyried gan yr awdurdod. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu a oes gan yr achwynydd fuddiant digonol o'r fath ac iddo hysbysu'r achwynydd a'r plentyn os yn briodol o'r penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 16 yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau pan na chafwyd penderfyniad lleol o dan reoliad 15. Rhaid i'r weithdrefn o dan reoliad 16 gynnwys person annibynnol a benodir o dan reoliad 17; nid oes angen i'r weithdrefn o dan reoliad 15 gynnwys y person annibynnol.

Mae rheoliad 18 yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r ymateb sydd i'w anfon gan yr awdurdod lleol gan gynnwys ymateb ynghylch hawl yr achwynydd i ofyn am i banel annibynnol ystyried y sylwadau ymhellach o dan y weithdrefn a sefydlir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 19 yn nodi sut y mae awdurdodau lleol i fonitro'r trefniadau y maent wedi'u gwneud a hynny gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.

(1)

1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr. Trosglwyddwyd y gwaith o arfer y pwerau o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf Plant 1989 yn Atodlen 1 iddo.

(4)

O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033, 2001/2874.

(10)

1998 p.38.