xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3364 (Cy.261)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

6 Rhagfyr 2005

Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(2), (3) a (4)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 1, 3 i 8, 11, 12 a 14 i 16 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac yn dilyn ymgynghori â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd fel sy'n ofynnol o dan adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN ICyffredinol

Enw a dyddiad cychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005.

(2Ac eithrio rheoliad 4, daw rheoliadau 1 i 21 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ionawr 2006.

(3Daw rheoliadau 4, 22 a 23 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2006.

(4Daw rheoliadau 24 i 42 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Chwefror 2006.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Dribiwnlysoedd yng Nghymru yn unig.

Dehongliad

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fynna'r cyd-destun fel arall—

ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl o dan—

(a)

adran 16 (Apeliadau: cyffredinol) a pharagraff 3 o Atodlen 3 (cosbau) i Ddeddf 1992;

(b)

rheoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992 (3);

(c)

rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (4);

(ch)

paragraff 4 o Atodlen 4A (Rhybuddion i Gwblhau) i Ddeddf 1988 (a elwir yn y Rheoliadau hyn yn “apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau”);

(d)

paragraff 5C o Atodlen 9 (Cosbau Sifil) i Ddeddf 1988; ac

(dd)

adran 45 o'r Ddeddf Draenio Tir 1991(5);

ystyr “ardal” (“area”) yng nghyswllt Tribiwnlys, yw'r ardal y sefydlir tribiwnlys ar ei chyfer gan reoliad 11;

ystyr “awdurdod bilio” (“billing authority”) yw awdurdod bilio fel y'i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf 1992;

ystyr “Cadeirydd” (“Chairperson”) yw Cadeirydd Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 15;

ystyr “cosb” (“penalty”) yw cosb a osodir o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1992;

ystyr “Cyfarwyddwr” (“Director”) yw Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 10;

ystyr “Cyngor Llywodraethu” (“Governing Council”) yw Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd dan reoliad 6;

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Dirprwy Gyfarwyddwr” (“Deputy Director”) yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 10;

ystyr “Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru” (“Valuation Tribunal Service for Wales”) yw'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlir o dan reoliad 5;

ystyr “hen Dribiwnlys” (“old Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio yng Nghymru a oedd yn bodoli yn union cyn 15 Chwefror 2006;

ystyr “hysbysiad am apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan reoliad 27(1);

ystyr “hysbysiad cwblhau” (“completion notice”) yw hysbysiad o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 fel y'i cymhwysir at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1992 (Treth Cyngor: Cymru a Lloegr);

ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 14;

ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22 o Ddeddf 1992;

ystyr “swyddog rhestru” (“listing officer”) mewn perthynas ag apêl, yw'r swyddog a benodir o dan adran 20 o Ddeddf 1992 ar gyfer yr awdurdod lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw aelodau Tribiwnlys a gynhaliwyd yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn at ddibenion penderfynu ar apêl; ac

ystyr “Tribiwnlys Arbennig” (“Special Tribunal”) yw Tribiwnlys a sefydlir o dan reoliad 25(5), (7) neu (8);

ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 11.

(2Caiff unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno i unrhyw berson yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gael ei gyflwyno drwy'r post.

(3Mae'r cyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at reoliadau ac Atodlenni i'r Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol.

Dirymu

4.  Dirymir y canlynol—

(a)Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995(6);

(b)rheoliadau 1 i 5 o Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygiadau) (Cymru) 2001(7); a

(c)Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygiadau) 2004(8).

RHAN IISefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ei Gyngor Llywodraethu a'r Tribiwnlysoedd Prisio

Sefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a'i Gyngor Llywodraethu

5.  Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnwys y Tribiwnlysoedd Prisio a sefydlir o dan reoliad 11.

6.  Ar 3 Ionawr 2006 sefydlir Cyngor Llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

7.  Yn ddarostynedig i reoliadau 19 a 20 bydd swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru dan y Rheoliadau hyn yn cael eu gweithredu ar ei ran gan ei Gyngor Llywodraethu.

Aelodaeth Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru

8.  Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu fydd:

(a)Llywyddion y Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru a benodir yn unol â rheoliad 14;

(b)unrhyw berson a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan reoliad 9.

9.  Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi un person i fod yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.

Penodi Cyfarwyddwr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu

10.—(1Yn ddarostynedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod a bennir, rhaid i aelodau'r Cyngor Llywodraethu, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu a phenodi person i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

(2Rhaid i'r personau sydd i'w penodi dan y rheoliad hwn fod yn aelodau o'r Cyngor Llywodraethu ac o Dribiwnlys Prisio.

(3Penderfynir ar y personau sydd i'w penodi drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod o'r Cyngor Llywodraethu'n cael un bleidlais.

(4Pan gynhelir etholiad dan baragraff (3), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa bersonau sydd i'w penodi o blith y rhai gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.

(5Ni chynhelir unrhyw etholiad arall i benodi Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, ar wahân i yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar y dyddiad pryd y dyroddir hysbysiad am yr etholiad gan y Prif Weithredwr yn unol â pharagraff (6).

(6Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Cyngor Llywodraethu a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad byddant yn cael eu cyhoeddi.

(7Lle, ar derfyn y cyfnod a bennir, na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, ac yn ddarostynedig i baragraff (2), yn penodi un o'u plith i fod yn Gyfarwyddwr a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr fel y bo'n briodol.

(8Bydd y Cyfarwyddwr a'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn ddeiliaid y swydd hyd nes y bydd pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)terfyn cyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad pryd y cychwynnodd y Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr ar ei swydd;

(b)nad yw'r Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu mwyach;

(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr o dan baragraff (9) yn dod i rym;

(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (10) yn dod i rym.

(9Caiff Cyfarwyddwr neu Ddirprwy Gyfarwyddwr ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cyfarwyddwr a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr, fel y bo'n briodol, derfynu eu cyfnod yn y swydd.

(11Os nad oes modd i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau dan y Rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Cyfarwyddwr, neu os na all y Cyfarwyddwr ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

(12Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod a bennir” (“prescribed period”) yw un mis gan ddechrau o 3 Ionawr 2006, neu dri mis o'r dyddiad pryd y daw swydd wag ar gael;

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Sefydlu'r Tribiwnlysoedd Prisio

11.—(1Sefydlir Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd a nodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.

(a)(2) (aBydd pob Tribiwnlys yn dwyn yr enw a roddir iddo yng ngholofn 2 o Atodlen 1.

(b)Dangosir enw Cymraeg pob Tribiwnlys Prisio yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn union ar ôl yr enw Saesneg.

Penodi Aelodau Tribiwnlys Prisio

12.—(1Bydd y canlynol yn aelodau Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 11, yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn,;

(a)rhai a benodir gan y cynghorau a nodwyd yn benodol mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1 (“y cynghorau”) a'r Llywydd ar y cyd, a

(b)rhai a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.

(2Uchafswm y nifer o aelodau y gall y cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac uchafswm y nifer o aelodau y gall cyngor a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.

(3Isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i'r cynghorau a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio hwnnw yng ngholofn 3 o Atodlen 1, ac isafswm y nifer o aelodau y mae'n rhaid i gyngor a'r Llywydd eu penodi yw dwy ran o dair o'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.

(4Yn ddarostynedig i reoliad 13(2), ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys yn gweithredu ynddi'n flaenorol.

(5I bwrpas y rheoliad hwn, ystyrir penodiadau a wnaed dan baragraff (4) fel pe baent wedi'u gwneud gan y cyngor a benododd yr aelod i wasanaethu ar yr hen Dribiwnlys, a'r Llywydd.

(6Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benodi aelodau i bob Tribiwnlys Prisio a enwir yng ngholofn 2 o Atodlen 1.

(7Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob aelod o hen Dribiwnlys a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu penodi'n aelodau o'r Tribiwnlys Prisio ar gyfer yr ardal yr oedd yr hen Dribiwnlys hwnnw'n gweithredu ynddo'n flaenorol.

(8Ar derfyn tri mis ers i sedd ddod yn wag ar Dribiwnlys Prisio, lle bo cyngor a Llywydd y Tribiwnlys Prisio wedi methu â gwneud penodiad yn unol â pharagraff (1), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud y penodiad hwnnw, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.

(9Ni fydd unrhyw benodiad o dan baragraff (1) yn ddilys, os bydd ei effaith yn golygu fod y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd ac sy'n aelodau o'r cyngor, yn uwch na'r un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.

(10Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio sy'n dod yn aelod o gyngor ar ôl i benodiad y person hwnnw ddod i rym.

(11Ni ddylid dehongli fod paragraff (9) yn effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o Dribiwnlys Prisio a oedd, ac sy'n parhau'n aelod o gyngor, os, ar yr adeg y daeth penodiad y person hwnnw i rym, nad oedd y nifer o aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, a oedd yn aelodau o'r cyngor, yn fwy na chyfanswm y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd.

(12Os bydd nifer yr aelodau o Dribiwnlys Prisio, a benodir gan gyngor a'r Llywydd, sy'n aelodau o'r cyngor hwnnw, yn uwch nag un rhan o dair o gyfanswm aelodau'r Tribiwnlys Prisio a benodir gan y cyngor hwnnw a'r Llywydd, rhaid i'r cyngor hwnnw a'r Llywydd, o fewn chwe mis, wneud y fath benodiadau ar y cyd ag sy'n angenrheidiol dan baragraff (1)(a) i alluogi penodiadau'r cyngor hwnnw a'r Llywydd dan baragraff (1)(a) i gydymffurfio â pharagraff (9) y rheoliad hwn.

(13Ar derfyn tri mis, pan fo cyngor a'r Llywydd wedi methu â gwneud y fath benodiadau ag sydd angen yn unol â pharagraffau (1)(a) a (12), caiff y penodiadau hynny eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

Hyd aelodaeth ar Dribiwnlysoedd Prisio

13.—(1Bydd aelodau a benodir o dan reoliad 12(4) a (7) yn dal y swydd hyd ddiwedd y cyfnod a bennir gan—

(a)gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys; neu

(b)Gynulliad Cenedlaethol Cymru

a wnaeth y penodiad.

(2Bydd penodiad pob aelod yn parhau am ba gyfnod bynnag a bennir gan y person neu'r personau sy'n gwneud y penodiad, ond ddim hwy na chwe blynedd, yn dilyn ymgynghori, yn achos penodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, â Llywydd y Tribiwnlys Prisio.

(3Bydd pob aelod yn dal y swydd hyd nes i ba un bynnag o'r canlynol ddigwydd gyntaf—

(a)terfyn y cyfnod a bennir dan baragraff (2);

(b)hysbysiad o dynnu enw'r aelod ymaith dan baragraff (4) neu (5) yn dod i rym;

(c)bod yr aelod yn dod yn anghymwys i ddal aelodaeth, yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 16;

(ch)bod yr aelod yn ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd.

(4Rhaid i'r Prif Weithredwr, os cyfarwyddir ef felly gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r cyngor a chyda Llywydd Tribiwnlys Prisio, drwy gyfrwng hysbysiad ysgrifenedig, yn rhoi i'r aelod hwnnw ba gyfnod o hysbysiad bynnag a gyfarwyddir, fod ei gyfnod yn y swydd i'w derfynu dan y paragraff hwn.

(5Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â Llywydd y Tribiwnlys Prisio, roi i unrhyw aelod a benodir ganddo hysbysiad ysgrifenedig yn nodi pa gyfnod o hysbysiad bynnag, ag a benderfynir ganddo, o derfynu swydd.

(6Pan benodir aelod yn Llywydd neu Gadeirydd Tribiwnlys Prisio yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac y byddai hyd aelodaeth yr aelod hwnnw o'r Tribiwnlys Prisio'n dod i ben drwy weithredu paragraff (3)(a), bydd aelodaeth yr aelod hwnnw'n parhau, ac eithrio i bwrpas rheoliadau 14(3), 15(3) a 15(12) am gyfnod a ddaw i ben gyda therfyn y cyfnod a bennir ar gyfer ethol Llywydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 14, neu Gadeirydd i lenwi'r swydd wag dan reoliad 15, yn ôl y digwydd, neu pan fo etholiad Llywydd neu Gadeirydd yn cael ei gynnal, yn ôl y digwydd, pa un bynnag ddaw gyntaf, ac y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “cyfnod interim”.

(7Pan fo aelodaeth Llywydd neu Gadeirydd yn parhau yn ystod y cyfnod interim yn unol â pharagraff (6), cyfyd lle gwag i bwrpas y Rheoliadau hyn yn achos Llywydd, ar gyfer aelod, Cadeirydd a Llywydd, ac yn achos Cadeirydd, am aelod a Chadeirydd, o ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), ac yn benodol, o'r dyddiad hwnnw ni fydd y Llywydd neu'r Cadeirydd hwnnw, yn rhinwedd gweithredu'r paragraff hwn, yn un o'r nifer o aelodau a bennir yn unol â rheoliad 12(2) nac yn un o'r nifer o aelodau i'w penodi'n Gadeirydd, a bennir dan reoliad 15(1).

(8Yn y rheoliad hwn, mae “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yn golygu Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Llywyddion y Tribiwnlysoedd Prisio

14.—(1Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob Llywydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi'n Llywydd y Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.

(2O fewn tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn swydd y Llywydd, rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio'r Llywydd hwnnw, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn, benodi person i fod yn Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

(3Rhaid i'r person a benodir fod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio ac fe'i pennir drwy etholiad, drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.

(4Pan gynhelir etholiad o dan baragraff (3) neu (11), a bod y canlyniad yn un cyfartal, penderfynir pa berson sydd i'w benodi o blith yr ymgeiswyr gyda nifer cyfartal o bleidleisiau, drwy fwrw coelbren.

(5Ni chynhelir etholiad i benodi Llywydd yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod cyhoeddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (6) gan y Prif Weithredwr. Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw etholiad gan fodolaeth lle gwag ymysg aelodau'r Tribiwnlys Prisio.

(6Rhaid i'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (5) gael ei gyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei gyflwyno ar y dyddiad y bydd yn cael ei gyhoeddi.

(7Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), pan na chynhaliwyd etholiad yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, benodi un o aelodau'r Tribiwnlys Prisio i fod yn Llywydd.

(8Bydd y Llywydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)terfyn y cyfnod interim y cyfeirir ato yn rheoliad 13(6);

(b)bod y Llywydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Llywydd hwnnw o dan baragraff (9) yn dod i rym;

(ch)hysbysiad terfynu dan baragraff (10) yn dod i rym.

(9Caiff Llywydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad o ddim llai nag un mis yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Tribiwnlys Prisio ag yr ystyria'n addas, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd, derfynu cyfnod y Llywydd hwnnw yn y swydd.

(11Os nad oes modd i'r Llywydd, oherwydd gwaeledd neu absenoldeb neu unrhyw reswm arall, gyflawni swyddogaethau'r Llywydd dan y rheoliadau hyn, yna bydd y swyddogaethau hynny, gydag awdurdod ysgrifenedig y Llywydd, neu os na all y Llywydd ei ddarparu, y Prif Weithredwr, yn cael eu cyflawni gan un o Gadeiryddion y Tribiwnlys Prisio a benodir i'r diben hwn gan aelodau'r Tribiwnlys Prisio ac a etholwyd ganddynt drwy fwyafrif syml o bleidleisiau a fwriwyd, gyda phob aelod yn cael un bleidlais.

(12Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Llywydd hen Dribiwnlys” (“President of an old Tribunal”) yw Llywydd hen Dribiwnlys sydd yn ei swydd ar 14 Chwefror 2006;

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Cadeiryddion y Tribiwnlysoedd Prisio

15.—(1Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob cadeirydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi i swydd Cadeirydd Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.

(2Yn ddarostynedig i baragraff (1), pennir y nifer o aelodau Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd, gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.

(3Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio, yn unol â'r rheoliad hwn, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod a bennir, drwy etholiad ymhlith eu haelodau.

(4Ni chynhelir etholiad yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod dyroddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (5) gan y Prif Weithredwr.

(5Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (4) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad y byddant yn cael eu cyhoeddi.

(6Yr aelodau a benodir yn Gadeiryddion fydd y nifer priodol o aelodau sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau o'u plaid.

(7I bwrpas paragraff (6) bydd gan bob aelod nifer o bleidleisiau yn cyfateb i'r nifer priodol, ac ni chaniateir iddynt fwrw ond un bleidlais dros bob ymgeisydd, a lle, mewn perthynas ag unrhyw le gwag, bod y canlyniad yn gyfartal, bydd y person neu'r personau sydd i'w penodi o blith yr ymgeiswyr â nifer cyfartal o bleidleisiau yn cael eu penderfynu drwy fwrw coelbren.

(8Ar derfyn y cyfnod a bennir, pan nad oes etholiad wedi digwydd yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â'r Llywydd, benodi nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.

(9Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)terfyn y cyfnod interim y cyfeirir ato yn rheoliad 13(6);

(b)bod y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

(c)bod y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy rybudd ysgrifenedig i'r Llywydd;

(ch)rhybudd terfynu dan baragraff (10) yn dod i rym.

(10O ran y Llywydd—

(a)caiff, wedi iddo ymgynghori â phob un o Gadeiryddion eraill y Tribiwnlys Prisio, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a

(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, yn terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, ac a fydd yn dod i rym ar derfyn pa gyfnod bynnag y cyfarwyddir felly.

(11Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (10)(b) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r Llywydd.

(12Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cadeirydd hen Dribiwnlys” (“chairman of an old Tribunal”) yw cadeirydd hen Dribiwnlys sydd yn ei swydd ar 14 Chwefror 2006;

ystyr “cyfnod a bennir” (“the prescribed period”) yw tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn dod ymysg y nifer a nodwyd, neu le gwag o'r fath a fyddai'n dod oni bai am gymhwyso rheoliad 13(6), yn ôl y digwydd;

ystyr “nifer a bennir” (“the determined number”) yw'r nifer a nodwyd gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn unol â pharagraff (2);

ystyr “nifer priodol” (“the appropriate number”) yw'r nifer a bennir wedi tynnu'r nifer o bersonau sydd ar am y tro yn dal swydd Cadeirydd;

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Gwahardd rhag aelodaeth o Dribiwnlysoedd Prisio

16.—(1Bydd person yn cael ei wahardd rhag cael ei benodi neu rhag parhau'n aelod o Dribiwnlys Prisio os—

(a)yw'r person hwnnw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr; neu

(b)fod y person hwnnw wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr, neu

(c)fod y person hwnnw yn ystod y pum mlynedd yn union cyn penodiad y person hwnnw, neu ers penodiad y person hwnnw, wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ac y gorchmynnwyd iddo gael ei garcharu am gyfnod o dri mis neu fwy heb yr opsiwn o gael dirwy, boed y ddedfryd honno'n ohiriedig ai peidio; neu

(ch)fod y person hwnnw wedi'i wahardd am y tro rhag bod yn aelod o awdurdod lleol; neu

(d)fod y person hwnnw neu ei gymar neu bartner sifil yn gyflogai neu'n dod yn gyflogai i'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.

(2Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(a) yn dod i ben—

(a)oni fo gorchymyn methdaliad a wnaed yn erbyn y person hwnnw wedi'i ddirymu'n flaenorol, ar y diwrnod pryd y rhyddheir y person hwnnw o fethdaliad; neu

(b)os diddymir y gorchymyn methdaliad, yna ar y diwrnod y diddymir ef.

(3Bydd gwaharddiad sy'n gysylltiedig â pherson oherwydd paragraff (1)(b) yn dod i ben—

(a)os bydd y person hwnnw'n talu dyledion y person hwnnw'n llawn, ar y dyddiad pryd y cwblheir y taliad; neu

(b)yn unrhyw achos arall, ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad pryd y cyflawnir telerau'r weithred gompowndio neu'r trefniant.

(4At ddibenion paragraff (1)(c) ystyrir mai'r dyddiad cyffredin pryd y daw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i ben, neu, os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad pryd y penderfynir yn derfynol arni, neu y rhoir gorau iddi, neu ei bod yn methu oherwydd methiant i erlyn, fydd dyddiad yr gollfarn.

(5I ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod o Dribiwnlys Prisio” (“member of a Valuation Tribunal”) yw aelod—

(a)o Dribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 12; neu

(b)o Gyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 8.

Lwfansau

17.—(1Bydd gan aelodau hawl i ba lwfansau teithio, cynhaliaeth ac eraill ag y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu o dro i dro.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys Prisio neu aelod o Gyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

RHAN 3Gweinyddiaeth

Staff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru

18.—(1O fewn un mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr Interim a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(2Bydd y Prif Weithredwr Interim'n dal y swydd hyd nes y bydd y person a benodir o dan baragraff (3) yn cychwyn ar ei swydd.

(3O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Ni fydd unrhyw benodiadau o dan baragraffau (1) neu (3) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5O fewn un mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc Interim i bob Tribiwnlys Prisio.

(6Bydd Clercod Interim yn dal y swydd hyd nes y bydd y personau a benodir o dan baragraff (7) yn cychwyn ar eu swyddi.

(7O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc i bob Tribiwnlys Prisio.

(8Caiff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi unrhyw gyflogeion eraill yn ôl ei benderfyniad.

(9Bydd y telerau a'r amodau y penodir y Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim, y Clercod a'r cyflogeion eraill, danynt, yn rhai a benderfynir gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(10Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n talu i'w gyflogeion pa gydnabyddiaeth a lwfansau bynnag a bennir ganddo.

(11Ni fydd unrhyw benderfyniad o dan baragraff (10) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(12Caiff swyddogaethau'r Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim a'r Clercod a benodir o dan baragraff (1), (3), (5) a (7) gael eu dirprwyo i weithwyr eraill Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, yn ôl penderfyniad y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(13Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraffau (1), (3), (5) a (7), pan nad oes unrhyw benodiadau wedi'u gwneud yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu ag yr ystyria'n addas, benodi Prif Weithredwr Interim, Prif Weithredwr, Clercod Interim neu Glercod fel y bo'n briodol.

Gweinyddiaeth

19.—(1Yn ddarostynedig i reoliad 7 a 20 caiff swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru o dan y rheoliadau hyn gael eu gweithredu ar ei ran gan ddau neu fwy o aelodau ei Gyngor Llywodraethu, y mae'n rhaid iddynt, yn ddarostynedig i baragraff (2) gynnwys Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

(2Lle bo'n anymarferol i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu weithredu unrhyw un o swyddogaethau'r Cyfarwyddwr o dan baragraff (1), gweithredir y swyddogaeth honno gan y dirprwy Gyfarwyddwr.

(3Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr fydd gweinyddu lwfansau aelodau'r Tribiwnlysoedd Prisio a'r Cyngor Llywodraethu a'r gydnabyddiaeth a'r lwfansau i gyflogeion Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Mewn perthynas ag unrhyw daliad o dan reoliad 17, rhaid i'r Prif Weithredwr gadw cofnod ar gyfer pob Tribiwnlys Prisio a'r Cyngor Llywodraethu o enw'r derbynnydd a'r swm a'r rheswm am y taliad, a rhaid iddo ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i archwilio a gwneud copïau o'r fath gofnodion.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Adeiladau ac offer

20.—(1Rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru gynnal swyddfa barhaol, a'r Prif Weithredwr fydd â'r swyddogaeth ar ran Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i wneud y fath drefniadau a fydd yn sicrhau fod ganddo adeiladau eraill, ac offer ysgrifenyddol ac offer arall sy'n ddigonol ar gyfer cyflawni'r Gwasanaeth.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Defnyddio ystafelloedd cyhoeddus

21.—(1Caiff Llywydd Tribiwnlys Prisio, Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr neu Glerc wneud cais am ganiatâd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru am ddefnyddio unrhyw adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor hwnnw gan Dribiwnlys Prisio neu ei aelodau, Tribiwnlys arbennig, y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr, Clerc neu weithwyr Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru ar ba ddyddiau bynnag a nodir yn y cais.

(2Ni ddylai cyngor sy'n derbyn cais fel y darperir ym mharagraff (1) wrthod y caniatâd a geisir yn afresymol, a bydd hawl ganddo i godi tâl rhesymol mewn perthynas â defnydd o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc Interim a benodir o dan reoliad 18(5) neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(7);

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

RHAN 4Darpariaethau Trosiannol

Apeliadau a drosglwyddir a dehongliad

22.—(1Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 15 Chwefror 2006, ac a fyddai, pe bai wedi'i gychwyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny'n gymwys i'w benderfynu gan Dribiwnlys Prisio a sefydlwyd o dan reoliad 11, yn cael ei drosglwyddo ar 15 Chwefror 2006 i'w benderfynu gan y Tribiwnlys Prisio hwnnw (“y Tribiwnlys newydd”).

(2Ar 15 Chwefror 2006 ac ar ôl hynny—

(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn bodoli, fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu yng nghyswllt yr hen Dribiwnlys y trosglwyddwyd ef ohono, neu Glerc, Llywydd neu gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys newydd, neu, yn ôl y digwydd, Clerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd hwnnw, a

(b)bydd unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y geirir ef) at Glerc, Llywydd neu gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu'r offerynnau a wneir danynt, cyn belled ag sy'n angenrheidiol i weithredu'r rheoliad hwn, yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at Glerc, neu, yn ôl y digwydd, Lywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “darpariaethau statudol perthnasol” (“the relevant statutory provisions”) yw—

(a)mewn perthynas ag apeliadau o dan adran 16, neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992, y Rheoliadau hyn;

(b)mewn perthynas ag apeliadau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y Rheoliadau hynny;

(c)mewn perthynas ag apeliadau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (Hysbysiadau i Gwblhau), a than Reoliadau a wnaed dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;

(ch)mewn perthynas ag apeliadau a wnaed o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, Deddf 1991;

(d)mewn perthynas ag apeliadau o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (Cosbau Sifil) o Ddeddf 1988, y Rheoliadau hyn.

(4At ddibenion Rhan 4 y Rheoliadau hyn, ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—

(a)Clerc Interim neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(5) a (7), ac

(b)unrhyw gyflogai arall i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 18(8), y mae holl swyddogaethau neu ran o swyddogaethau Clerc yn Rhan 4 y Rheoliadau hyn, wedi'u dirprwyo iddynt.

Dirwyn i Ben

23.—(1Bydd yr hen Dribiwnlysoedd yn peidio â bod ar 14 Chwefror 2006.

(2Yn ddarostynedig i reoliad 12, bydd cyfnod aelodaeth aelodau'r hen Dribiwnlysoedd ar 14 Chwefror 2006 yn dod i ben ar derfyn y diwrnod hwnnw.

RHAN 5Apeliadau Treth Cyngor

Dehongliad

24.—(1Mae unrhyw gyfeiriad yn narpariaethau canlynol y Rhan hon—

(a)at barti mewn apêl, yn cynnwys yr apelydd ac unrhyw berson y mae ganddo hawl bod copi o hysbysiad am apêl yr apelydd yn cael ei gyflwyno iddo; ac

(b)at adran wedi'i rhifo neu Atodlen, oni fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gyfeiriad at yr adran neu'r Atodlen a rifwyd felly yn Neddf 1992.

(2At ddibenion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—

(a)Clerc Interim neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(5) a (7); ac

(b)unrhyw gyflogai arall i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 18(8), y mae holl swyddogaethau neu ran o swyddogaethau Clerc yn Rhan 5 y Rheoliadau hyn, wedi'u dirprwyo iddynt.

Awdurdodaeth

25.—(1Yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn—

(a)ymdrinnir ag apêl, ar wahân i apêl yn erbyn cosb, gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi;

(b)ymdrinnir ag apêl yn erbyn cosb gan y Tribiwnlys Prisio y mae ardal ei awdurdodaeth yn cynnwys ardal yr awdurdod bilio dan sylw.

(2Lle bo—

(a)mwy nag un awdurdod bilio wedi penderfynu fod person yn atebol i dalu treth cyngor ar gyfer yr un diwrnod am fod y person hwnnw'n breswylydd mewn perthynas ag annedd, a

(b)bod y person yn apelio o dan adran 16(1) yn erbyn y ddau neu bob un o'r penderfyniadau, ac

(c)oni bai am y paragraff hwn byddai'r apeliadau'n gymwys i wahanol Dribiwnlysoedd Prisio ymdrin â hwy,

ymdrinnir â'r apeliadau, yn ddarostynedig i baragraff (3), gan ba un bynnag o'r Tribiwnlysoedd Prisio hynny ag a ddewisir gan y person hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys Prisio hwnnw.

(3Lle bo'r apelydd yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl yr apelydd, ni ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ond Tribiwnlys Prisio arall a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Lle bo'r apelydd yn gyn aelod o'r Tribiwnlys Prisio y byddai ei apêl yn gymwys iddo ymdrin â hi, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn, a bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ymdrinnir â hi gan ba Dribiwnlys Prisio arall ag a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(5Lle bo'r apelydd yn gyflogai i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ymdrinnir â'r apêl gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(6Lle'r ymddengys i Lywydd Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl, na fyddai'n briodol i'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi oherwydd gwrthdaro, neu'r hyn a allai ymddangos fel gwrthdaro buddiannau, bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, pan hysbysir ef o hynny gan y Llywydd, yn penodi Tribiwnlys Prisio arall i ymdrin â'r apêl honno.

(7Er gwaethaf darpariaethau'r rheoliad hwn, lle'r ymddengys yn briodol i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, caiff benodi Tribiwnlys Arbennig i ymdrin ag apêl.

(8Os bydd—

(a)yr apelydd yn gyn aelod neu gyflogai i hen Dribiwnlys, a

(b)Tribiwnlys Prisio, yn unol â pharagraff (1) neu (2), i ymdrin ag unrhyw apêl gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (a), a bod ardal y Tribiwnlys yn cynnwys ardal neu ran o ardal yr hen Dribiwnlys hwnnw, ac

(c)bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys hwnnw ymdrin â'r apêl

ymdrinnir â hi gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(9Mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan baragraffau (5), (7) neu (8), bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n penodi un o'r Clercod a benodir dan reoliad 18(5) neu (7) i wasanaethu'r Tribiwnlys hwnnw.

Terfynau amser

26.—(1Bydd apêl gan berson mewn perthynas â'r hwn y bodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b) yn cael ei gwrthod oni chychwynnir hi yn unol â'r Rhan hon yn ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad yr awdurdod bilio dan yr adran honno.

(2Pan fodlonir yr amod a grybwyllwyd yn adran 16(7)(c), gwrthodir apêl gan y person a dramgwyddwyd oni chychwynnir hi o fewn pedwar mis i ddyddiad cyflwyno hysbysiad y person hwnnw o dan adran 16(4).

(3Gwrthodir apêl o dan baragraff (3) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992 oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn dau fis gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o roddi'r gosb.

(4Gwrthodir apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad.

(5Er gwaethaf paragraffau (1) i (4), caiff y Llywydd awdurdodi i apêl gael ei hystyried lle bo'r Llywydd yn fodlon fod methiant y person a dramgwyddwyd i gychwyn yr apêl fel y darperir gan y rheoliad hwn, wedi digwydd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y Llywydd” (“the President”) hefyd, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), yw Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Cychwyn apêl

27.  Rhaid cychwyn apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc (“hysbysiad am apêl”) (“a notice of appeal”) .

(2Lle gwneir yr apêl o dan adran 16, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl;

(b)y dyddiad pryd y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 16(4) i'r awdurdod bilio, ac

(c)y dyddiad, os o gwbl, pryd yr hysbyswyd yr apelydd gan yr awdurdod, fel y crybwyllwyd yn adran 16(7)(a) neu (b).

(3Lle bo apêl yn apêl yn erbyn hysbysiad i gwblhau, rhaid i'r hysbysiad am apêl fod â'r canlynol yn cyd-fynd ag ef—

(a)copi o'r hysbysiad i gwblhau; a

(b)datganiad yn nodi ar ba seiliau y gwneir yr apêl.

(4Lle gwneir yr apêl yn erbyn cosb, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys y wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; a

(b)dyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o roddi cosb.

(5Rhaid i'r Clerc, o fewn pythefnos i gyflwyno'r hysbysiad am apêl, hysbysu'r apelydd fod y Clerc wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi ohono i'r awdurdod bilio y mae ei benderfyniad, ei weithred neu ei hysbysiad yn destun yr apêl, ac unrhyw awdurdod bilio arall yr ymddengys i'r Clerc ei fod yn gysylltiedig.

Trefniadau ar gyfer apeliadau

28.—(1Dyletswydd Llywydd Tribiwnlys Prisio fydd sicrhau y gwneir trefniadau i apeliadau gael eu penderfynu yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon.

(2Mae'r paragraff hwn yn berthnasol lle bo apêl o dan y Rhan hon ac apêl o dan un neu fwy o'r canlynol—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992;

yn ymwneud â'r un eiddo.

(3Lle bo paragraff (2) yn gymwys—

(a)bydd y Llywydd yn sicrhau yr ymdrinnir â'r apeliadau yn y fath drefn ag yr ymddengys i'r Llywydd hwnnw fyddai orau i sicrhau buddiannau cyfiawnder;

(b)rhaid i'r swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl y digwydd) a'r awdurdod bilio gael eu cysylltu fel parti i apêl dan y Rhan hon;

(4Ym mharagraff (3), ystyr “swyddog prisio” (“valuation officer”) yw'r swyddog a benodir o dan adran 61(1)(a) o Ddeddf 1988.

(5Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, gyflwyno copi o'r hysbysiad am apêl i berson a wnaed yn barti yn unol â pharagraff (3).

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae “Llywydd Tribiwnlys Prisio” (“the President of a Valuation Tribunal”) hefyd yn golygu, mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan reoliad 25(5), (7) neu (8), Cyfarwyddwr Cyngor Llywodraethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Tynnu'n ôl

29.—(1Ceir tynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc cyn i wrandawiad, neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, ddechrau.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysu'r apelydd pa fo'r hysbysiad am dynnu'n ôl wedi'i dderbyn, a rhaid iddo gyflwyno copi o'r hysbysiad i bob parti arall i'r apêl.

Penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig

30.—(1Gellir penderfynu ar apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny'n ysgrifenedig.

(2Lle bo pob parti wedi rhoi cytundeb fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos o gyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad yn datgan—

(a)y rhesymau, neu'r rhesymau pellach am yr anghytundeb sydd wedi achosi'r apêl; neu

(b)nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach.

(3Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno i'r Clerc ac i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad am effaith paragraffau (4) a (5).

(4Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach yn datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.

(5Ar derfyn pedair wythnos gan ddechrau o ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o—

(a)unrhyw wybodaeth a drosglwyddwyd i'r Clerc dan y Rheoliadau hyn, a

(b)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (4),

i Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir yn rheoliad 34.

(6Caiff y Tribiwnlys y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os yr ystyria'n briodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu'n ysgrifenedig wybodaeth bellach am y seiliau y dibynnir arnynt ac am unrhyw ffeithiau neu haeriadau perthnasol; neu

(b)orchymyn y dylid penderfynu'r apêl ar sail gwrandawiad.

(7Lle bo Tribiwnlys yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu manylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r manylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos i'r cyflwyno, gyflwyno i'r Clerc unrhyw sylwadau pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.

Hysbysiad o wrandawiad

31.—(1Lle bo'r apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, rhaid i'r Clerc, o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad dan sylw, gyflwyno i'r partïon hysbysiad am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad.

(2Bydd y Clerc yn hysbysebu'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad drwy sicrhau fod hysbysiad yn nodi'r fath wybodaeth yn cael ei arddangos mewn man amlwg—

(a)y tu allan i swyddfa'r awdurdod bilio a benodir gan yr awdurdod i'r diben hwnnw, neu

(b)mewn man arall o fewn ardal yr awdurdod hwnnw.

(3Rhaid i'r rhybudd sy'n ofynnol o dan baragraff (2) enwi man lle y gellir archwilio rhestr o'r apeliadau sydd i'w clywed.

(4Lle bo gwrandawiad apêl wedi'i ohirio, rhaid i'r Clerc gymryd pa gamau bynnag sy'n rhesymol ymarferol yn yr amser sydd ar gael—

(a)i hysbysu'r partïon am y gohiriad; ac

(b)i hysbysebu'r gohiriad.

Gwaharddiad rhag cymryd rhan

32.—(1Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r person hwnnw'n aelod o'r awdurdod bilio perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod bilio perthnasol” (“relevant billing authority”) yw—

(a)yn achos apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, yr awdurdod bilio y mae'r annedd sy'n destun yr apêl wedi'i leoli ynddi; ac

(b)yn unrhyw achos arall, yr awdurdod bilio yr apelir yn erbyn ei benderfyniad.

(3Gwaherddir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad neu'r penderfyniad, neu rhag gweithredu fel Clerc neu swyddog Tribiwnlys mewn perthynas ag apêl, os yw'r apelydd yn gymar i'r person hwnnw neu'n bartner sifil neu fod y person hwnnw'n cynnal yr apelydd yn ariannol, neu o dan rwymedigaeth i wneud hynny.

(4Fel arall, ni fydd person yn cael ei wahardd rhag gweithredu mewn unrhyw fodd mewn perthynas ag apêl yn unig am y rheswm fod y person hwnnw'n aelod o awdurdod sy'n derbyn arian yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o daliadau mewn perthynas â threth cyngor allai gael ei effeithio gan weithredu swyddogaethau'r person hwnnw.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad

33.  Caiff unrhyw barti i apêl sydd i'w phenderfynu mewn gwrandawiad, ymddangos yn bersonol (gyda chymorth gan unrhyw berson os yw'r person hwnnw'n dymuno hynny), gan gwnsler neu dwrnai, neu unrhyw gynrychiolydd arall (ar wahân i berson sy'n aelod o Dribiwnlys Prisio neu Gyngor Llywodraethu Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, neu gyflogai Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru).

Trefn y gwrandawiad

34.—(1Yn ddarostynedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth Tribiwnlys i wrando neu benderfynu apêl gan dri aelod o Dribiwnlysoedd Prisio ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.

(2Lle bo pob parti i apêl sy'n ymddangos yn cytuno, gellir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o Dribiwnlysoedd Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.

(3Cynhelir y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fo'r Tribiwnlys yn gorchymyn fel arall ar gais parti, ac wedi iddo gael ei fodloni y byddai buddiannau'r parti hwnnw'n cael eu heffeithio'n niweidiol.

(4Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Tribiwnlys wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Tribiwnlys wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.

(5Caiff y Tribiwnlys fynnu bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau, a bydd ganddo hawl i'r diben hwnnw i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.

(6Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Tribiwnlys, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Tribiwnlys a galw tystion.

(7Caniateir gohirio gwrandawiad am ba amser bynnag, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os o gwbl) a ystyrir yn briodol gan y Tribiwnlys; a rhaid rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser a'r lleoliad y gohiriwyd y gwrandawiad iddo, i bob parti.

(8Os ystyria ei fod yn briodol, caiff Tribiwnlys, wedi hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.

(9Yn ddarostynedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon, o ran y Tribiwnlys—

(a)rhaid iddo gynnal y gwrandawiad yn y modd a ystyria'n fwyaf priodol i egluro'r materion ger ei fron ac yn gyffredinol i ymdrin yn gyfiawn â'r achos;

(b)rhaid iddo, cyn belled ag yr ymddengys yn briodol iddo, geisio osgoi ffurfioldeb yn ei drafodion; ac

(c)ni fydd wedi'i glymu gan unrhyw ddeddfiad neu reol cyfraith yn ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth gerbron llysoedd barn.

Tystiolaeth: cyffredinol

35.—(1Mae'r rheoliad hwn yn berthnasol i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 neu Atodlen 2 i Ddeddf 1992.

(2Yn ddarostynedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi yn dderbyniol mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a chymerir fod unrhyw ddogfen sy'n honni cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni ddangosir yn wahanol—

(a)wedi'i chyflwyno gan y person yr honnir iddi gael ei chyflwyno ganddo; ac

(b)y cyflwynwyd hi gan y person hwnnw ym mha fodd bynnag yr honnir iddi gael ei chyflwyno.

(3Ni ddylai gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi gael ei defnyddio mewn unrhyw achosion perthnasol gan awdurdod bilio oni fo—

(a)dim llai na phythefnos o rybudd, yn nodi'r wybodaeth sydd i'w defnyddio yn y fath fodd a'r annedd neu'r person y mae'n ymwneud â hi, wedi'i roi'n flaenorol i bob parti arall yn yr achos; a

(b)bod unrhyw berson sydd wedi rhoi dim llai na 24 awr o rybudd o fwriad y person hwnnw i wneud hynny wedi derbyn caniatâd gan yr awdurdod hwnnw ar unrhyw amser rhesymol—

(i)i archwilio'r dogfennau a chyfryngau eraill y delir y wybodaeth ynddynt neu arnynt; a

(ii)i wneud copi o unrhyw ddogfen neu unrhyw ddarn o ddogfen yn cynnwys y fath wybodaeth.

(4Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio'n unol â'r rheoliad hwn ar gael ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau ei bod ar gael felly os sicrheir fod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r ddogfen a gafwyd o'r cyfrwng storio a fabwysiadwyd mewn perthynas â'r ddogfen, ar gael i'w archwilio.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “achos(ion) perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i gyfeirio i gyflafareddiad o dan reoliad 42.

Tystiolaeth o restrau a dogfennau eraill

36.—(1Gellir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu o'r rhan berthnasol, yr honnir yr ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog rhestru.

(2Gellir profi cynnwys hysbysiad cwblhau drwy ddangos copi ohono yr honnir ardystiwyd iddo fod yn gopi cywir gan y swyddog priodol o'r awdurdod bilio.

(3Ym mharagraff (2) mae gan “swyddog priodol” (“proper officer”) yr un ystyr ag yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(9)).

Penderfyniadau ar apeliadau

37.—(1Caiff apêl ei phenderfynu gan fwyafrif yr aelodau sy'n cymryd rhan; a lle (yn unol â rheoliad 34(2)), y penderfynir arni gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid iddi gael ei hanfon yn ôl gan y Clerc i'w phenderfynu gan Dribiwnlys yn cynnwys tri aelod gwahanol.

(2Lle penderfynir ar apêl ar sail gwrandawiad, gall penderfyniad y Tribiwnlys gael ei ohirio neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.

(3Yn ddarostynedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i benderfyniad gael ei wneud, rhaid iddo—

(a)yn achos penderfyniad a roddwyd ar lafar, gael ei gadarnhau,

(b)yn unrhyw achos arall, gael ei gyfleu,

drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.

(4Ni fydd unrhyw beth ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i barti os byddai'n ail-adrodd unrhyw ddogfen a gyflwynwyd i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 41.

(5Yn achos apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad i'r swyddog rhestru a benodir ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Gorchmynion

38.—(1Pan benderfynir ar apêl neu ar ôl penderfynu arni, caiff y Tribiwnlys, o ganlyniad i'r penderfyniad, fynnu drwy orchymyn—

(a)i amcangyfrif gael ei ddileu neu ei ddiwygio;

(b)i gosb gael ei dileu;

(c)i benderfyniad awdurdod bilio gael ei wrth-droi;

(ch)i gyfrifiad (ar wahân i amcangyfrif) o swm gael ei ddirymu, gan ail-gyfrifo'r swm.

(2Caiff gorchymyn fynnu y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i'r pwnc sydd dan sylw ganddo.

Adolygu penderfyniadau

39.—(1Yn ddarostynedig i baragraffau (2) a (3) bydd gan Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4) hawl, ar dderbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif dan law'r aelod sy'n llywyddu—

(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllwyd ym mharagraff (5), a

(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan benderfynwyd apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw gan yr Uchel Lys.

(3Caiff cais o dan baragraff (1) ei wrthod oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos gan ddechrau ar y diwrnod pryd y rhoddir hysbysiad (boed yn unol â rheoliad 37(3) neu reoliad 40(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

(4Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Tribiwnlys a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad.

(5Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)y gwnaed y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad clerigol;

(b)na fu i barti ymddangos, ac y gall ddangos rheswm rhesymol pam na wnaeth y parti hynny; ac

(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan neu ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Tribiwnlys Tir mewn perthynas ag apêl ynglŷn ag annedd, neu yn ôl y digwydd, berson a oedd yn destun penderfyniad y Tribiwnlys.

(6Y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi sicrhau ei bodolaeth drwy ymchwil rhesymol drylwyr, na'i rhagweld, wedi dod ar gael ers terfyn yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(7Os bydd Tribiwnlys yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron un ai'r un Tribiwnlys neu un gwahanol.

(8Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol hysbysu'r partïon i'r apêl yn ysgrifenedig am—

(a)benderfyniad na fydd y Tribiwnlys yn ymgymryd ag adolygiad dan baragraff (1);

(b)penderfyniad y Tribiwnlys, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad dan sylw;

(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); a

(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).

(9Yng nghyswllt penderfyniad y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1), lle bo apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol yn dilyn y digwyddiad perthnasol.

(10Ym mharagraff (9)—

ystyr “diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod pryd, yn ôl y digwydd,—

(a)

y gwneir y cais o dan baragraff (1);

(b)

y digwydd y digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8); ac

ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw.

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.

Cofnodion o benderfyniadau, ayb

40.—(1Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i bob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 38 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 39, gael eu cofnodi.

(2Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, boed ddogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a nodir yn Atodlen 2 isod.

(3Rhaid i gopi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod, gael ei anfon i bob parti i'r apêl y mae'r cofnod yn berthnasol iddi, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid cadw pob cofnod am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau o'r dyddiad y gwnaed nodyn ynddo ddiwethaf.

(5Caiff unrhyw berson, ar amser rhesymol a nodir gan neu ar ran y Tribiwnlys dan sylw, a heb dalu, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).

(6Os bydd person sydd yng ngofal y cofnod, heb esgus rhesymol yn rhwystro'n fwriadol berson rhag gweithredu'r hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, ar dderbyn euogfarn ddiannod, i ddirwy dim uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(7Caiff yr aelod a lywyddodd yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid i gopi o'r cofnod wedi'i gywiro gael ei anfon i'r personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol iddynt.

(8Bydd dangos, yn unrhyw achos yn unrhyw lys barn, ddogfen yr honnir yr ardystiwyd iddi fod yn gopi cywir gan Glerc Tribiwnlys o gofnod neu benderfyniad y Tribiwnlys hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.

Apeliadau

41.—(1Bydd apêl yn mynd i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol yn codi o benderfyniad neu orchymyn a roddir neu a wneir gan Dribiwnlys ar apêl, a ceir gwneud hynny gan unrhyw barti i'r apêl.

(2Yn ddarostynedig i baragraff (3), ceir gwrthod apêl dan baragraff (1) oni wneir hi o fewn pedair wythnos i'r dyddiad pryd y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n destun yr apêl.

(3Lle—

(a)mewn perthynas â chais dan baragraff (1) o reoliad 39 a wnaed o fewn pedair wythnos i ddyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad sy'n destun yr apêl, y rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(a) y rheoliad hwnnw, neu

(b)y rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(b) y rheoliad hwnnw,

ceir gwrthod yr apêl oni wneir hi o fewn pedair wythnos i gyflwyno'r hysbysiad dan y paragraff (8)(a) neu (b) hwnnw.

(4Caiff yr Uchel Lys gadarnhau, amrywio, gosod o'r neilltu, dirymu neu ddileu unrhyw orchymyn y gallai'r Tribiwnlys fod wedi'i wneud.

(5Rhaid i awdurdodau bilio weithredu'n unol ag unrhyw orchymyn a wnaed gan yr Uchel Lys; a bydd paragraff 10A o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 yn effeithiol yn ddarostynedig i'r gofyniad hwn.

Cymrodeddu

42.—(1Ar unrhyw adeg cyn dechrau gwrandawiad neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Dribiwnlys, lle cytunir yn ysgrifenedig rhwng y personau a fyddai'n bartïon i'r apêl, pe digwyddai i anghydfod fod yn destun apêl i'r Tribiwnlys, cyfeirir y mater i gymrodeddiad.

(2Bydd adran 94 o Ddeddf Cyflafareddu 1996(10) yn effeithiol at ddibenion cyfeirio cwestiwn yn unol â'r rheoliad hwn, fel pe bai'r cyfeiriad yn un o gymrodeddiad o dan Ddeddf arall o fewn ystyr yr adran honno.

(3Yn unrhyw gymrodeddu yn unol â'r rheoliad hwn, gall y dyfarniad gynnwys unrhyw orchymyn allai fod wedi'i wneud gan Dribiwnlys mewn perthynas â'r cwestiwn, a bydd paragraff 10A o Atodiad 11 i Ddeddf 1988 yn berthnasol i orchymyn o'r fath fel y mae'n berthnasol i orchmynion a gofnodwyd yn unol â'r Rhan hon.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005

Rheoliadau 11, 12

ATODLEN 1SEFYDLU TRIBIWNLYSOEDD PRISIO A PHENODI AELODAU

12345
Ardal awdurdodaethEnwY nifer mwyaf o aelodau pob Tribiwnlys a benodir gan y Cynghorau a'r LlywyddCynghorauY nifer mwyaf o aelodau i'w penodi gan bob cyngor
Siroedd Mynwy, Casnewydd a Phowys a bwrdeistrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, a ThorfaenEast Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Dwyrain Cymru66Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent9
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili9
Cyngor Sir Fynwy9
Cyngor Dinas Casnewydd9
Cyngor Sir Powys21
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen9
Siroedd Môn Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a bwrdeistrefi sirol Conwy a WrecsamNorth Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Gogledd Cymru54Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy9
Cyngor Sir Ynys Môn9
Cyngor Sir Gwynedd9
Cyngor Sir Ddinbych9
Cyngor Sir y Fflint9
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam9
Sir Caerdydd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro MorgannwgSouth Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio De Cymru57Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr9
Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd18
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,15
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg9
Siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe a bwrdeistref sirol Castell-nedd a Phort TalbotWest Wales Valuation Tribunal Tribiwnlys Prisio Gorllewin Cymru57Cyngor Sir Ceredigion6
Cyngor Sir Caerfyrddin12
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot12
Cyngor Sir Benfro12
Cyngor Sir a Dinas Abertawe15

Rheoliad 40

ATODLEN 2CYNNWYS COFNODION A WNAED DAN RAN 5

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnwys Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd a nodir yn Atodlen 1. Bydd y Tribiwnlysoedd yn ymdrin ag apeliadau a wnaed dan y darpariaethau statudol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3. Bydd y Tribiwnlysoedd Prisio'n dechrau ymdrin ag apeliadau o'r fath ar 15 Chwefror 2006. Parheir i ymdrin â phob apêl hyd at ac yn cynnwys 14 Chwefror 2006 gan hen Dribiwnlys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu—

Mae Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer sefydlu'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ei Gyngor Llywodraethu a'r Tribiwnlysoedd Prisio.

Sefydlir Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a'r Cyngor Llywodraethu gan Reoliadau 5 a 6. Mae Rheoliad 7 yn ymdrin â swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer aelodaeth y Cyngor Llywodraethu.

Mae Rheoliad 10 yn ymdrin â phenodi Cyfarwyddwr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Corff Llywodraethu.

Mae Rheoliad 11 yn sefydlu Tribiwnlys Prisio ar gyfer pob un o'r ardaloedd awdurdodaeth a nodir yn Atodlen 1.

Mae Rheoliadau 12 a 13 yn darparu ar gyfer nifer aelodau pob Tribiwnlys Prisio, y nifer sydd i'w penodi gan bob cyngor penodi a Llywydd, eu penodiad a hyd eu haelodaeth.

Mae Rheoliadau 14 a 15 yn ymdrin â phenodi Llywydd y Tribiwnlys Prisio a'i Gadeiryddion.

Mae Rheoliad 16 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pryd y mae person i gael ei wahardd rhag bod yn aelod.

Mae Rheoliad 17 yn darparu ar gyfer y lwfansau sydd i'w talu i aelodau.

Mae Rhan 3 y Rheoliadau hyn yn ymwneud â staff, gweinyddiaeth, adeiladau ac offer.

Mae Rheoliad 18 yn darparu ar gyfer penodi Prif Weithredwr interim, Prif Weithredwr a phenodi unrhyw weithwyr eraill (gan gynnwys Clercod) yn ôl penderfyniad Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Mae'r Rheoliad hwn hefyd yn darparu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau'r Prif Weithredwr.

Mae Rheoliad 19, 20 a 21 yn ymwneud â gweinyddiaeth, adeiladau ac offer.

Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag apeliadau a drosglwyddir a dirwyn y Tribiwnlysoedd presennol i ben.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer trefn i ymdrin ag apeliadau mewn perthynas â Threth y Cyngor.

(1)

1988 p.41. Gweler O.S. 1999/672. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 1, 3 i 8, 11, 12, 14 i 16 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, cyn belled ag y gellir eu hymarfer mewn perthynas â Chymru, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

(3)

Gweler O.S. 1993/290.

(4)

Gweler O.S. 1993/291.

(10)

1996 p.23.

(11)

1998 p.38.