Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005

Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

19.  Yn Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(1), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “relative”—

(a)yn is-baragraffau (a), (b), ac (c), ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”;

(b)ar ôl “the person’s child,” dileër “and”; ac

(c)ar ôl “wife” mewnosoder “, and references to a “civil partner” include a former civil partner.”

(1)

O.S. 2002/ 919 (Cy. 107), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.