xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IRHAGARWEINIAD

Taliadau sy'n daladwy i ragor nag un awdurdod bwyd

9.  Mewn unrhyw achos pan fo arfer rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio a phan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio (“awdurdod A”), neu pan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod B”), yw'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod C”), rhaid i awdurdod C anfon—

(a)i awdurdod A, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A; a

(b)i awdurdod B, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod B.