Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IRHAGARWEINIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw Ynysoedd Prydain;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn is-adran 1A o adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1);

ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd yn ei ardal y mae amgylchiadau sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw yn codi;

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw'r awdurdod a ddynodwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005(2);

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(3), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), Rheoliad 178/2002 (“Regulation 178/2002”), Rheoliad 852/2004 (“Regulation 852/2004”), Rheoliad 853/2004 (“Regulation 853/2004”), Rheoliad 854/2004 (“Regulation 854/2004”), Rheoliad 882/2004 (“Regulation 882/2004”), Rheoliad A (“Regulation A”), Rheoliad B (“Regulation B”), Rheoliad C (“Regulation C”), Rheoliad D (“Regulation D”), a Rheoliad E (“Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;

ystyr “cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr o dan rwymedigaeth iddynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion psygodfeydd a fewnforir ac—

(a)

sy'n tarddu o drydedd wlad;

(b)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(c)

na fuont neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio arfaethedig, neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio, i Wladwriaeth AEE neu i Kalaallit Nunaat (Greenland);

(ch)

neu sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; a

(d)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—

(a)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(b)

na fuont neu fuasant ar dir cyn cael eu glanio;

(c)

sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; ac

(ch)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

heblaw cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol sy'n cael eu gwerthu am y tro cyntaf yng Nghymru a mewnforion trydydd gwledydd;

ystyr “gwerthwr” (“vendor”)

(a)

pan fo asiant yn gwerthu cynhyrchion pysgodfeydd ar ran perchennog neu feistr llestr, yr asiant hwnnw; a

(b)

ym mhob achos arall, perchennog neu feistr y llestr;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

mae i “llestr ffatri” (“factory vessel”) a “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yr ystyron a roddir i “factory vessel” a “fishery products”, yn y drefn honno, ym mhwyntiau 3.2 a 3.1 o Atodlen I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(5);

ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy ynglŷn ag ef o dan reoliad 52(1) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004(6);

mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i “processing” ym mharagraff 1(m) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;

ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw—

(a)

penwaig neu ysgadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;

(b)

penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;

(c)

mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;

(ch)

marchfecryll;

(d)

brwyniaid; ac

(dd)

picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris;

dehonglir “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yn unol â'r diffiniad o “official control” ym mharagraff 1(a) o Erthygl 2 o Reoliad 854/2004???);

mae i “rhoi ar y farchnad” (“placing on the market”) yr ystyr a roddir i “placing on the market” ym mharagraff 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002;

mae i “sefydliad” (“establishment”) yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;

ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle mae prosesu yn digwydd;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n ffurfio'r cyfan neu ran o Wladwriaeth AEE; ac

ystyr “wedi'u hoeri” (“chilled”) yw wedi'u gostwng i dymheredd sy'n agos at dymheredd iâ tawdd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.

Gwir gostau

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm y costau o'r mathau a bennir ym mharagraff (2) ac yr eir iddynt yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

(2Y mathau o gostau yw—

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol a phensiynau, pob aelod o staff sy'n cymryd rhan uniongyrchol mewn arfer y rheolaethau a phob aelod o staff sy'n ymwneud â rheoli neu weinyddu'r rheolaethau;

(b)costau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau;

(c)costau teithio a mân dreuliau perthynol yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau, ac eithrio'r rheini yr eir iddynt gan berson sy'n mynd i'w le gwaith arferol;

(ch)costau ystafelleodd, offer a gwasanaethau swyddfa ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau, gan gynnwys dibrisiant unrhyw ddodrefn ac offer swyddfa a chost technoleg gwybodaeth, deunyddiau ysgrifennu a ffurflenni;

(d)costau dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau;

(dd)costau golchi dillad amddiffynnol a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau;

(e)costau samplu a dadansoddi yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau; ac

(f)costau gweinyddol arferol cadw cyfrif a chasglu taliadau a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél ynghyswllt cyflogi staff sy'n arfer y rheolaethau.

Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro

4.—(1Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer benodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer honno wedi'i chyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer benodedig o Ewros drwy luosi'r nifer honno gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw—

(a)ar gyfer 2006, 1 Ewro = £0.68335; a

(b)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny.

Cyfnod Cyfrifydda

5.—(1At ddibenion y Rheoliadau hynny, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na deuddeng mis ac a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.

(2Rhaid penderfynu ar y cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef—

(a)gwneud datganiadau niferoedd; a

(b)casglu taliadau.

Adennill taliadau

6.  Pan osodir unrhyw ddyletswydd i dalu taliad o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson, caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy ei adennill—

(a)ar y cyd oddi wrth y ddau ohonynt; neu

(b)ar wahân oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt.

Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau

7.—(1Pan ddelo'n hysbys i unrhyw awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo—

(a)cyfrifo swm y taliad gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd yn ei feddiant; a

(b)rhoi hysbysiad am y swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.

(2Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol neu'r awdurdod cymwys yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ailgyfrifo'r taliad ac—

(a)pan fo'r swm cywir yn fwy na'r swm a gyfrifwyd o dan baragraff (1), adennill y swm uchaf yn unol â'r paragraff hwnnw;

(b)pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw a phan na fo'r swm wedi'i adennill, ni chaiff adennill ond y swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac

(c)pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i adennill, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.

Apelau

8.—(1Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan awdurdod sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.

(2Gwrander wir ar yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran apêl fel y mae'n gymwys o ran apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.

(3Ar apêl o'r fath caiff y llys—

(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod dan sylw;

(b)penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ac, yn enwedig, caiff ostwng swm unrhyw dâl o 55% pan fo'n ofynnol i'r awdurdod wneud y gostyngiad hwnnw o dan reoliad 11, 14, 18 neu 22 ond pan nad yw wedi gwneud hynny; neu

(c)penderfynu nad oes tâl yn daladwy.

(4Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn gymwys o hyd, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad pan wnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sydd hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod dan sylw.

(5Os yw'r llys yn penderfynu bod swm unrhyw dâl a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r swm y mae unrhyw berson wedi'i dalu i awdurdod ynglŷn â'r tâl, rhaid i'r awdurdod hwnnw dalu'r gordaliad yn ôl.

Taliadau sy'n daladwy i ragor nag un awdurdod bwyd

9.  Mewn unrhyw achos pan fo arfer rheolaethau swyddogol yn cael ei ohirio a phan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio (“awdurdod A”), neu pan nad yr awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod B”), yw'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod C”), rhaid i awdurdod C anfon—

(a)i awdurdod A, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A; a

(b)i awdurdod B, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod B.

(1)

1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(5)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Rhoddir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources