Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(1);

  • Ystyr “Penderfyniad 2005/598” (“Decision 2005/598”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001(2);

  • Ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(3) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol(4) ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor(5);

  • Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(6) fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(7) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(8) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(9) fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • Ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004;

  • Ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac

  • Ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004.

(1)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(2)

OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22.

(3)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.

(4)

OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1.

(5)

OJ Rhif L205, 6.8.2005, t.3.

(6)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(7)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(8)

OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(9)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).