Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

4.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(2) gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;

(c)adran 32 (pwerau mynediad);

(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e)adran 35(2) a (3)(4) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(5); ac

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.

(2)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(3)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(4)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(5)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.