Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 19904
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 19908 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
a
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
b
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)9 gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;
c
adran 32 (pwerau mynediad);
ch
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
d
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
dd
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)10, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
e
adran 35(2) a (3)11 i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
f
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
ff
adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)12; ac
g
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.