http://www.legislation.gov.uk/wsi/2005/3287/contents/made/welsh
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod)(Cymru) 2005
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2012-09-26
ADDYSG, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Cyrff yw'r rhain sy'n brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau a chyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw dyfarniad a roddir gan gorff o'r fath yn ddyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 214(1) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i roi, i gynnig rhoi neu i ddyroddi unrhyw wahoddiad sy'n ymwneud รข graddau a dyfarniadau penodol nad ydynt yn cael eu cydnabod.