xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
46.—(1) Ni fydd swyddog i awdurdod cymwys yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Ni chaniateir i unrhyw beth ym mharagraff (1) gael ei ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod cymwys rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.
(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod cymwys mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond
(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) Rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.