RHAN VGORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll46

1

Ni fydd swyddog i awdurdod cymwys yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

a

wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

b

o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

2

Ni chaniateir i unrhyw beth ym mharagraff (1) gael ei ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod cymwys rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

3

Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod cymwys mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog —

a

wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; ond

b

y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

4

Rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.