Search Legislation

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol

8A.—(1Ar ôl i'r cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 6 ddod i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu p'un ai—

(a)i dynnu'r cynigion yn ôl,

(b)i'w cadarnhau heb eu haddasu; neu

(c)i'w cadarnhau'n ddarostyngedig i addasiadau.

(2Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol â rheoliad 6 ac nas tynnir yn ôl.

(3Cyn cadarnhau'r cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r personau hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol.

(4Caiff cadarnhad o dan is-baragraff (1)(b) neu (c) fod yn amodol ar fod achlysur penodedig o fath sydd wedi'i ragnodi yn digwydd erbyn amser penodedig; ac os nad yw'r achlysur yn digwydd erbyn yr amser penodedig rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailystyried ei benderfyniad o dan baragraff (1).

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu ei gynigion yn ôl ar unrhyw adeg cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn.

(10Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer “(a) y Cyngor”;

(b)ym mharagraff (2)(a) mewnosoder “Cenedlaethol” ar ôl y gair “Cynulliad” ac yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol”;

(c)dirymir paragraff (3).

(11Yn rheoliad 10—

(a)dirymir paragraff (1);

(b)ym mharagraff (2)—

(i)hepgorer “(a) y Cyngor”.

(ii)ar ôl “a gymeradwywyd” mewnosoder “neu a gadarnhawyd”.

(12Dirymir rheoliad 13.

(13Yn rheoliad 14—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol”;

(b)ym mharagraff (2) yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol” ac ar ôl “cynigion” mewnosoder “ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall”.

(14Yn rheoliad 16(1) yn lle “y gall cymeradwyo” rhodder “y gall cadarnhau”.

(15Yn rheoliad 17 hepgorer “(a) y Cyngor”.

(16Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1 yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol”;

(b)hepgorer paragraff 12.

(17Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1 yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol”.

(18Dirymir Atodlen 3.

(19Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1 ar ôl “a gymeradwywyd” mewnosoder “neu a gadarnhawyd”;

(b)ym mharagraff 4:

(i)yn lle “Cyngor” rhodder “Cynulliad Cenedlaethol”;

(ii)dileër “, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol,”;

(c)hepgorer paragraff 5;

(ch)ym mharagraff 6 yn lle “i'r Cyngor” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources