41. Yng Ngorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005:
(1) Yn erthygl 2 hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(2) Yn erthygl 7:
(a)ym mharagraff (1) yn lle “ganiatâd y Cyngor” rhodder “ganiatâd y Cynulliad”;
(b)ym mharagraff (3) yn lle “gan y Cyngor” rhodder “gan y Cynulliad”.
(3) Yn erthygl 9 yn lle “a'r Cyngor” rhodder “a'r Cynulliad”.
(4) Yn erthygl 10:
(a)yn lle paragraff (2)(a) rhodder—
“(a)eiddo wedi'i gaffael neu wedi codi yn ei werth yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng cymorth ariannol a ddarparwyd gan:
(i)y Cynulliad o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 o 1 April 2006 ymlaen;
(ii)Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Medrau rhwng 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2006;
(iii)Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru o dan adran 5 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 cyn 1 Ebrill 2001.”;
(b)ym mharagraff (3)(a) yn lle “eu breinio yn y Cyngor” rhodder “eu breinio yn y Cynulliad”.