ATODLEN 2DIWYGIADAU CANLYNIADOL I OFFERYNNAU STATUDOL
Gorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005 (SI 2005/2293)41
Yng Ngorchymyn Ymgorffori Coleg Catholig Dewi Sant 2005:
1
Yn erthygl 2 hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
2
Yn erthygl 7:
a
ym mharagraff (1) yn lle “ganiatâd y Cyngor” rhodder “ganiatâd y Cynulliad”;
b
ym mharagraff (3) yn lle “gan y Cyngor” rhodder “gan y Cynulliad”.
3
Yn erthygl 9 yn lle “a'r Cyngor” rhodder “a'r Cynulliad”.
4
Yn erthygl 10:
a
yn lle paragraff (2)(a) rhodder—
a
eiddo wedi'i gaffael neu wedi codi yn ei werth yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng cymorth ariannol a ddarparwyd gan:
i
y Cynulliad o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 o 1 April 2006 ymlaen;
ii
Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Medrau rhwng 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2006;
iii
Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru o dan adran 5 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 cyn 1 Ebrill 2001.
b
ym mharagraff (3)(a) yn lle “eu breinio yn y Cyngor” rhodder “eu breinio yn y Cynulliad”.