- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthygl 6(2)
1. Yn Atodlen 1 (Swyddi sy'n anghymhwyso o aelodaeth) i Ddeddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan III, yn yr eitem sy'n ymwneud ag unrhyw aelod yn derbyn tâl o'r Awdurdod Dwristiaeth Brydeinig (etc), yn lle “, the Scottish Tourist Board or the Wales Tourist Board” rhodder “or the Scottish Tourist Board”.
2. Yn Rhan II o Atodlen 1A (Cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol) i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 dileer yr eitem sydd yn ymwneud â Bwrdd Croeso Cymru.
3. Yn Neddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999:
(1) yn is-adran (5) o adran 378 (Dyletswydd yr Awdurdod i hyrwyddo twristiaeth) ar ôl paragraff (a) mewnosoder:
“(aa)the National Assembly for Wales”; a
(2) yn is-adran (11) o adran 378:
(a)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder “or”; a
(b)dileër paragraff (e) a'r gair “or” sy'n ei ragflaenu.
4. Yn Atodlen 2A (Personau sy'n ddarostyngedig i adolygiad gan y Comisynydd o dan Adran 72B) i Ddeddf Safonau Gofal 2000, dileer paragraff 21.
5. Yn Rhan VI o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dileer “The Wales Tourist Board”.
6. Yn Neddf Datblygu Rhyngwladol 2002:
(1) yn is-adran (4)(b) o adran 9 (Pwerau cyrff statudol), ar ôl “Welsh body” mewnosoder “other than the National Assembly for Wales”; a
(2) yn Atodlen 1 (Cyrff statudol y mae adran 9 yn gymwys iddynt), yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”.
7. Yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig) i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, hepgorer “The Wales Tourist Board”.
1. Yn yr Atodlen (Cyrff cenedlaethol neu gyrff sy'n perthyn i gyrff cenedlaethol) i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) 1975:
(1) dileër “The Wales Tourist Board”; a
(2) yn yr eitem sy'n dechrau â'r geiriau “A regional tourist board ... ... ... ...” hepgorer “or the Wales Tourist Board”.
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynlluniau Iaith Cymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996, dileer “Wales Tourist Board” a “Bwrdd Croeso Cymru”.
3. Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, yn Atodlen 1, yn yr eitem ar gyfer Deddf Datblygu Twristiaeth 1969—
(a)yn y frawddeg gyntaf (yn dilyn enw'r ddeddf), hepgorer y geiriau “in respect of all the functions vested in the Secretary of State for Wales by virtue of section 1(3) and (6).”;
(b)hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under sections 2(8) etc”);
(c)hepgorer y pedwerydd frawddeg (sy'n cychwyn “The function of “the Minister of the Civil Service” etc”); ac
(ch)ac eithrio at ddibenion y datganiad o gyfrif ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 y darperir ar ei gyfer yn erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn, hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under section 6(1) etc) a'r pedwerydd frawddeg (sy'n cychwyn “The functions of the Comptroller and Auditor General etc).
4. Yn Rhan III o'r Atodlen (Personau sy'n esempt o ran gweithgaredd a reoleiddir a grybwyllir yn erthygl 5(1)) i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Esemptio) 2001, dileer “The Wales Tourist Board”.
5. Yn rheoliad 4 (Dehongli- cyffredinol) o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002—
(a)yn y diffiniad o “tourist destination”, yn lle “Wales Tourist Board” rhodder “National Assembly for Wales”;
(b)yn y diffiniad o “Tourist Information Centre”, yn lle “England or Wales Tourist Boards” rhodder “England Tourist Board, National Assembly for Wales”; ac
(c)yn y diffiniad o “Tourist Information Point”, ar ôl “tourist board” mewnosoder “or the National Assembly for Wales”.
6. Yn yr Atodlen (Swyddi sy'n anghymhwyso deiliaid o aelodaeth y Cynulliad Cenedlaethol) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003, dileer “The Wales Tourist Board”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: