Search Legislation

Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005 a daw i rym drannoeth ei wneud.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr y “Bwrdd” (theBoard”) yw Bwrdd Croeso Cymru;

  • ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan y Bwrdd o dan gontract cyflogi;

  • ystyr y “Cynulliad” (theAssembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

  • ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.

Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad

2.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Bwrdd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau a'r offerynnau sy'n ymwneud â'r Bwrdd er mwyn:

(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a

(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu sydd yn gysylltiedig neu'n atodol i hynny.

(2Yn rhinwedd y paragraff hwn, ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y mae gan y Bwrdd hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt yn union o flaen y dyddiad hwnnw.

(3Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sy'n codi o dan contract cyflogi a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Bwrdd.

(4Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(1) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.

(5Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant o'r trosglwyddiad.

(6Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 sy'n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.

(2Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—

(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a

(b)wrthi'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.

(3Mae unrhyw beth—

(a)a wnaed gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy; a

(b)sy'n cael effaith yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,

i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad.

(4Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Bwrdd mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—

(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd, a

(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),

ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.

(5Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Bwrdd, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir yn adran 6 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969(2) yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy:

(a)rhwymedigaeth y Bwrdd o dan adran 6(1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad,

(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan adran 6(3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac

(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 6(4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.

Diddymu

4.  Ar ôl trosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad yn unol ag Erthygl 2, daw bodolaeth y Bwrdd i ben.

Dirwyn i ben

5.  Rhaid i'r Bwrdd roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol

6.—(1Diwygir darpariaethau Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 a Deddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992(3) a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.

(2Diwygir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r Atodlen honno ar y dyddiad trosglwyddo.

(3Mae'r diwygiadau i'r deddfiadau yn ymestyn i'r un graddau â'r ddarpariaeth yn y deddfiad sy'n cael ei ddiwygio.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources