- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
12A.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” yw disgybl cofrestredig a enwebwyd gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ac a benodwyd felly gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005.
(2) Mwyafswm y nifer o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu yw dau.
(3) Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder:
“20A. Mae unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn ychwanegol at y nifer o lywodraethwyr a osodir yn rheoliad 13 i 20 ac Atodlen 8.”
(4) Ar ôl rheoliad 25(5) mewnosoder:
“(5A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad ei benodiad. Nid oes dim byd yn y paragraff hwn yn rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod ei swydd i ben.”
(5) Yn lle rheoliad 29 a'i bennawd rhodder:
29. Caiff y corff llywodraethu symud unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1, unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.”
(6) Ar ddechrau rheoliad 33(1)(ch), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5),”.
(7) Ar ôl rheoliad 33(4), ychwaneger:
“(5) Nid yw is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.”
(8) Yn rheoliad 44, rhodder “rheoliadau 44A a 63” yn lle “rheoliad 63”.
(9) Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder:
44A.—(1) Caiff y corff llywodraethu wahardd disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan gorff llywodraethu sy'n ymwneud â:
(a)penodi staff, cyflog staff, disgyblaeth staff, rheoli perfformiad staff, cwynion a gyflwynwyd gan staff neu ddiswyddo staff;
(b)derbyn;
(c)disgyblu disgybl unigol;
(ch)ethol, penodi a symud llywodraethwyr;
(d)y gyllideb a rhwymedigaethau ariannol y corff llywodraethu;
(dd)yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Weithred Ymddiriedolaeth; neu
(e)unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r corff llywodraethu yn fodlon ei fod yn gyfrinachol ac y dylai barhau'n gyfrinachol.”
(10) Yn rheoliad 46(1) mewnosoder “unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt,” o flaen “unrhyw leoedd gwag.”
(11) Yn rheoliad 46(2) mewnosoder “(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)” ar ôl “ac yn pleidleisio ar y mater.”
(12) Ar ôl rheoliad 46(2), mewnosoder:
“2A. Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu.”.
(13) Yn rheoliad 54(7) mewnosoder “disgybl-lywodraethwyr a” ar ôl “Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys” a newidir “personau” i “phersonau”.
(14) Ar ddiwedd rheoliad 54(8) ychwaneger “ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt.”.
(15) Yn lle rheoliad 55(7), rhodder:
“(7) Ni chaiff pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.”.
(16) Yn rheoliad 56(2) mewnosoder “nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt” ar ôl “y pennaeth”.
(17) Yn rheoliad 57(2)(b) mewnosoder “(ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt)” ar ôl “lywodraethwr arall”.
(18) Yn lle rheoliad 58(2) rhodder:
“(2) Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).”
(19) Yn rheoliad 60(5) rhodder “, 57(4) a 60(9)” yn lle “a 57(4)”.
(20) Ar ddechrau rheoliad 60(6) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(8),”.
(21) Ar ddechrau rheoliad 60(7) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(9),”.
(22) Ar ôl rheoliad 60(8), mewnosoder:
“60—(9) At ddibenion paragraffau (5), (6), (7) ac (8) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu a fydd disgybl-lywodraethwyr cyswllt yn cael eu trin fel llywodraethwyr.”
(23) Ar ddechrau paragraff 1 ac 11(1) o Atodlen 5, mewnosoder “Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt,”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: