Search Legislation

Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 3200 (Cy.236)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

15 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(2), 19(3), 20(2), 21(3), 210(7) a 214(1) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs resource base”) yw dosbarth neu adran mewn ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig; ac

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir heblaw ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol fabanod; ac

ystyr “ysgol fabanod” (“infant school”) yw ysgol a gynhelir nad yw'n derbyn disgyblion sy'n 8 oed neu drosodd.

Cynghorau Ysgol

3.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu cyngor ysgol, a'i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â'u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i'r corff llywodraethu a'r pennaeth;

(2Rhaid i bennaeth ysgol:

(a)sicrhau bod cyfarfodydd o'r cyngor ysgol yn cael eu cynnull chwech o weithiau yn ystod y flwyddyn ysgol ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, ar gyfnodau rheolaidd, a rhaid i'r cyfarfod cyntaf ddigwydd erbyn 1 Tachwedd 2006; a

(b)sicrhau bod pob cyfarfod cyngor ysgol yn cael eu goruchwylio gan o leiaf un aelod o staff yr ysgol.

(3Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth ysgol ill dau ystyried unrhyw fater a gaiff ei gyfleu iddynt gan y cyngor ysgol a rhoi ymateb i'r cyngor ysgol.

(4Caiff corff llywodraethu'r ysgol a phennaeth yr ysgol gytuno i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ar y cyd â chorff llywodraethu a phennaeth ysgolion eraill.

Aelodaeth

4.—(1Dim ond disgyblion cofrestredig yn yr ysgol gaiff ffurfio aelodaeth y cyngor ysgol.

(2Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a'r pennaeth drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o bob grŵp blwyddyn ysgol, o Flwyddyn 3 ac yn uwch, yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.

(3Anghymhwysir person nad yw'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y sefydlir cyngor ysgol ar ei chyfer o aelodaeth y cyngor hwnnw.

(4Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth unrhyw ysgol sydd â chanolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig, drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o'r ganolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig honno yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.

Ysgolion Arbennig

5.  Nid yw Rheoliadau 3(2)(a), 4(2), 6 a 7 yn gymwys i ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion arbennig.

Etholiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), er mwyn penodi i'r cyngor ysgol, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol sy'n rhoi'r hawl i bob disgybl cofrestredig i bleidleisio dros ymgeiswyr (os oes rhai) yn eu grŵp blwyddyn neu yn eu canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol.

Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt

7.—(1Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o'i aelodaeth i fod yn ddisgybl lywodraethwyr cyswllt ar gorff llywodraethu'r ysgol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebwyd yn unol â pharagraff (1) uchod, a'i benodi'n ddisgybl-lywodraethwr ar y corff llywodraethu, ar yr amod na chafodd y disgybl ei anghymhwyso o aelodaeth yn unol ag Atodlen 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2).

Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt: Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

8.—(1Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder:

“Disgybl-lywodraethwyr cyswllt

12A.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” yw disgybl cofrestredig a enwebwyd gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ac a benodwyd felly gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005.

(2Mwyafswm y nifer o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu yw dau.

(3Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder:

20A.  Mae unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn ychwanegol at y nifer o lywodraethwyr a osodir yn rheoliad 13 i 20 ac Atodlen 8.

(4Ar ôl rheoliad 25(5) mewnosoder:

(5A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad ei benodiad. Nid oes dim byd yn y paragraff hwn yn rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod ei swydd i ben.

(5Yn lle rheoliad 29 a'i bennawd rhodder:

Symud rhiant-lywodraethwr, llywodraethwyr partneriaeth a disgybl-lywodraethwyr cyswllt a benodwyd:

29.  Caiff y corff llywodraethu symud unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1, unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.

(6Ar ddechrau rheoliad 33(1)(ch), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5),”.

(7Ar ôl rheoliad 33(4), ychwaneger:

(5) Nid yw is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(8Yn rheoliad 44, rhodder “rheoliadau 44A a 63” yn lle “rheoliad 63”.

(9Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder:

Gwahardd disgybl-lywodraethwyr cyswllt o gyfarfodydd

44A.(1) Caiff y corff llywodraethu wahardd disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan gorff llywodraethu sy'n ymwneud â:

(a)penodi staff, cyflog staff, disgyblaeth staff, rheoli perfformiad staff, cwynion a gyflwynwyd gan staff neu ddiswyddo staff;

(b)derbyn;

(c)disgyblu disgybl unigol;

(ch)ethol, penodi a symud llywodraethwyr;

(d)y gyllideb a rhwymedigaethau ariannol y corff llywodraethu;

(dd)yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Weithred Ymddiriedolaeth; neu

(e)unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r corff llywodraethu yn fodlon ei fod yn gyfrinachol ac y dylai barhau'n gyfrinachol.

(10Yn rheoliad 46(1) mewnosoder “unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt,” o flaen “unrhyw leoedd gwag.”

(11Yn rheoliad 46(2) mewnosoder “(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)” ar ôl “ac yn pleidleisio ar y mater.”

(12Ar ôl rheoliad 46(2), mewnosoder:

2A.  Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu..

(13Yn rheoliad 54(7) mewnosoder “disgybl-lywodraethwyr a” ar ôl “Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys” a newidir “personau” i “phersonau”.

(14Ar ddiwedd rheoliad 54(8) ychwaneger “ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt.”.

(15Yn lle rheoliad 55(7), rhodder:

(7) Ni chaiff pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo..

(16Yn rheoliad 56(2) mewnosoder “nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt” ar ôl “y pennaeth”.

(17Yn rheoliad 57(2)(b) mewnosoder “(ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt)” ar ôl “lywodraethwr arall”.

(18Yn lle rheoliad 58(2) rhodder:

(2) Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).

(19Yn rheoliad 60(5) rhodder “, 57(4) a 60(9)” yn lle “a 57(4)”.

(20Ar ddechrau rheoliad 60(6) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(8),”.

(21Ar ddechrau rheoliad 60(7) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(9),”.

(22Ar ôl rheoliad 60(8), mewnosoder:

60(9) At ddibenion paragraffau (5), (6), (7) ac (8) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu a fydd disgybl-lywodraethwyr cyswllt yn cael eu trin fel llywodraethwyr.

(23Ar ddechrau paragraff 1 ac 11(1) o Atodlen 5, mewnosoder “Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt,”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y gofyniad i ysgolion a gynhelir i sefydlu cynghorau ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion drafod a gwneud sylwadau ar faterion ynglŷn â'r ysgol neu ar faterion eraill y maent yn ymboeni amdanynt.

Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau'n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2005 ac yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli.

Mae rheoliad 3 yn gosod diben y cynghorau ysgol a dyletswyddau penaethiaid a chyrff llywodraethu o ran y cynghorau ysgol.

Mae rheoliad 4 yn gosod gofynion aelodaeth pob cyngor ysgol.

Mae rheoliad 5 yn darparu nad yw rhai darpariaethau penodol yn gymwys i ysgolion arbennig.

Mae rheoliad 6 yn darparu mai drwy bleidlais gyfrinachol y penodir i gyngor ysgol oni bai bod trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod yn rhaid rhoi cyfle i aelodau penodol ar gyngor ysgol i ddod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ac mae rheoliad 8 yn nodi'r diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Rheolaeth Ysgolion, yr Adran Hyfforddiant ac Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources