xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3114 (Cy.234)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

8 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adran 9, 11(2) a (3), 140(7) ac (8) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person y tu allan i Ynysoedd Prydain, sy'n cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle mae'r plentyn, neu lle mae'r darpar fabwysiadydd, yn arfer preswylio, ac sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu fel a ddiffinnir gan adran 2(1) o'r Ddeddf neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadu gydag elfen dramor;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “Rheoliadau'r Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(2);ac

ystyr “y Rheoliadau Elfen Dramor” (“the Foreign Element Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005(3).

Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfleusterau(4) yn cael eu darparu gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â—

(a)mabwysiadu plentyn y daethpwyd ag ef i mewn i'r Deyrnas Unedig at y diben o'i fabwysiadu, neu

(b)mabwysiad Confensiwn(5), mabwysiad tramor(6) neu unrhyw fabwysiad arall sy'n cael ei wneud o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(3Y personau y ceir codi ffi arnynt yw—

(a)darpar fabwysiadydd; neu

(b)mabwysiadydd.

(4Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)cyfleusterau a ddarperir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau'r Asiantaethau i unrhyw berson sy'n dod o fewn rheoliad 3(3) mewn cysylltiad â mabwysiadu plentyn sydd i'w ddwyn i'r Deyrnas Unedig ar gyfer mabwysiad, mabwysiad tramor neu unrhyw fabwysiad a gyflawnir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain ac eithrio:

(i)darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain; a

(ii)darparu gwybodaeth cyn i awdurdod lleol gael cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain.

(b)cyfleusterau sy'n cael eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a osodir ar awdurdod lleol gan y Rheoliadau Elfen Dramor neu'n unol â hwy neu gan y Ddeddf fel y cafodd ei hamrywio neu ei chymhwyso gan y Rheoliadau Elfen Dramor ac eithrio:

(i)cyfleusterau a ddarperir yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

(ii)darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

(iii)darparu gwybodaeth cyn i awdurod lleol gael cais ysgrifenedig am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor;

(iv)darparu gwybodaeth i'r darpar fabwysiadydd, cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd neu ddarparu cwnsela i'r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

(v)cyflwyno adroddiad yn unol â rheoliad 29(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor.

(c)adroddiad a gyflwynir i awdurdod tramor perthnasol pan na fo'r adroddiad yn ofyniad gwneud mabwysiad Confensiwn neu fabwysiad tramor o dan gyfraith gwlad dramor lle mae'r plentyn yn arfer preswylio.

(5Rhaid i'r ffi—

(a)fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na'r costau a'r treuliau a dynnwyd yn briodol gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau; a

(b)beidio â chynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau a threuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â:

(i)cwynion a wnaed ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Wasanaeth Mabwysiadu'r awdurdod lleol;

(ii)sylwadau a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau'r Asiantaethau; neu

(iii)adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o fewn ystyr adran 12 o'r Ddeddf.

(6Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i godi am gyfleusterau a ddarperir mewn amgylchiadau lle byddai codi am wasanaethau yn cael ei wahardd fel arall o dan adran 95 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

Mae rheoliad 3 yn ymwneud â chyfleusterau sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ynglŷn â mabwysiadu plant sydd yn arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain, yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddarparu cyfleusterau o'r fath ar gyfer person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o'r fath neu ar gyfer person sydd wedi mabwysiadu plentyn o'r fath. Rhaid i'r ffi fod yn rhesymol a bod wedi'i chyfyngu i'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau. Rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw elfen sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o'i eiddo ar addasrwydd darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn.

(4)

Rhaid dehongli “facilities” yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf.

(5)

Diffnnir “convention adoption” gan adran 66(1)(c) o'r Ddeddf.

(6)

Diffinnir “overseas adoption” gan adran 87(1) o'r Ddeddf.