xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3113 (Cy.233)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005

Wedi eu gwneud

8 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a 44(9), 140(7) ac (8) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Awdurdodau lleol rhagnodedig

3.—(1At ddibenion adran 44(9)(a) o'r Ddeddf, rhagnodir yr awdurdodau lleol canlynol yn yr achosion canlynol.

(2Yn achos mabwysiad arfaethedig gan un person nad oes ganddo bellach gartref yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw.

(3Pan nad oes gan fabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau wedi rhannu'r cartref diwethaf y bu ganddynt yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd y cartref hwnnw.

(4Pan nad oes gan y mabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau heb rannu'r cartref diwethaf y bu gan y naill a'r llall yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol y mae'r mabwysiadwyr arfaethedig yn ei enwebu, sef yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y naill neu'r llall o'r mabwysiadwyr.

(5Pan fo dau fabwysiadydd arfaethedig ac nad oes gan y naill na'r llall gartref yng Nghymru ond y bu gan un ohonynt gartref neu gartrefi yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw yng Nghymru.

Gofyniad i gymryd camau i gael gwiriadau heddlu

4.  At ddibenion ymchwiliad a drefnir o dan adran 44(5) o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau i gael, o ran—

(a)y mabwysiadwyr arfaethedig, a

(b)unrhyw aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn,

dystysgrif cofnod troseddol manwl yn ôl ystyr “enhanced criminal record certificate” yn adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(2) gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl sy'n dymuno mabwysiadu plentyn nad yw asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli gyda hwy.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r awdurdod lleol priodol at ddibenion adran 44 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) pan fo'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw dramor adeg y maent yn dymuno gwneud cais am orchymyn mabwysiadu. Bydd hyn yn gymwys, er enghraifft, yn achos mabwysiadwyr arfaethedig sy'n aelodau o'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau diplomyddol sy'n gweithio dramor. Yn y fath achos, mae rheoliad 3 yn darparu mai'r awdurdod y mae'n rhaid iddynt roi hysbysiad iddo am eu bwriad i fabwysiadu yw'r awdurdod lleol yn yr ardal lle bu'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw ddiwethaf pan oeddent yn byw yng Nghymru. Os nad oedd y mabwysiadwyr arfaethedig yn byw gyda'i gilydd yng Nghymru, yna gallant ddewis pa awdurdod lleol o'r ddau ar gyfer yr ardaloedd lle bu gan y mabwysiadwyr arfaethedig eu cartref ddiwethaf yng Nghymru yw'r awdurdod lleol priodol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol at ddiben yr ymchwiliad y mae'n ofynnol iddo'i drefnu o dan adran 44(5) o Ddeddf 2002 gymryd camau i gael tystysgrifau cofnod troseddol manwl o ran y ddau fabwysiadydd arfaethedig ac aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn.