Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3039 (Cy.227)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

1 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

2 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”)(1) a pharagraffau 10(1) a 12(b) o Atodlen 5 iddi a pharagraffau 6(1)(d), 9(2) a (3) o Atodlen 5B iddi, ac adran 5(7)(f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“Deddf 1990”)(2) a pharagraffau 16(4) a 16(5) o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 11(1) o Atodlen 5, a pharagraff 9(4) o Atodlen 5B, i Ddeddf 1977 a pharagraff 16(6) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990, â chyrff y mae'n eu cydnabod fel rhai sy'n cynrychioli personau y mae'n debyg yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac maent yn dod i rym ar 2 Tachwedd 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996(3).

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

2.—(1Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2O flaen y diffiniad o “application” mewnosoder y diffiniad canlynol—

“accredited as a consultant” means—

(a)

a person whose name is included in the register of specialists maintained by the General Medical Council pursuant to article 8 of the European Specialist Medical Qualifications Order 1995 (the specialist register); or

(b)

a person whose name is included in the register of specialists maintained by the General Medical Council pursuant to article 13 of the General and Specialist Medical Practice (Education, Training and Qualifications) Order 2003 (the specialist register),

where that person has either been appointed as a consultant by an Armed Services Consultant Appointment Board or appointed to a consultant post with an Authority;.

(3Yn y diffiniad o “Authority”, ar ôl “Special Health Authority,” mewnosoder “an NHS trust, a Local Health Board”.

(4Ar ôl y diffiniad o “core members” mewnosoder y diffiniad canlynol—

“Defence Medical Services” means the medical services of the air force, army and navy of the United Kingdom, whose function is to provide primary and secondary healthcare to service personnel and entitled civilians;.

(5Yn y diffiniad o “lay member” dileer “or NHS trust”.

(6Mae'r diffiniad o “relevant college” wedi'i ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ar ôl paragraff (e) mewnosoder “(ee) the Royal College of Paediatrics and Child Health,”;

(b)ar ôl paragraff (f) mewnosoder “(ff) the Royal College of Physicians and Surgeons of Glasgow,”;

(c)ym mharagraff (g) dileer y gair “or”;

(ch)ym mharagraff (h) ar ôl y gair “Radiologists,” mewnosoder y gair “or”; a

(d)ar ôl paragraff (h) mewnosoder “(i) the Royal College of Surgeons of Edinburgh,”.

(7Yn lle'r diffiniad o “relevant University” rhodder y canlynol—

“relevant University” means—

(a)

for an appointment to a Local Health Board any University associated with the provision of health services to that Board;

(b)

for an appointment to an NHS trust,

(i)

in the case where a University is specified in the Establishment Order for the NHS trust in question, that University; or

(ii)

in all other cases, any University with a department which teaches the relevant specialty;.

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau

3.—(1Mae rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (penodiadau esempt) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), is-baragraff (d), dileer “an NHS trust,”.

(3Ym mharagraff (1), is-baragraff (e)(ii) yn lle “NHS trust” rhodder “Authority”.

(4Ym mharagraff (1), is-baragraff (g)—

(a)yn lle “Public Health Laboratory Service Board” rhodder “the Health Protection Agency (Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd) established by the Health Protection Agency Act 2004”(4);

(b)yn lle “or that Board” rhodder “or Agency”.

(5Ar ôl paragraff (1)(g) mewnosoder—

(h)a person who has been accredited as a consultant and has been appointed to a consultant post in the Defence Medical Services, and whose appointment to the staff of an Authority will be to a post in which the duties and location of the post are substantially the same as the duties and location of the post previously held in the Defence Medical Services;

(i)a person whose last employment by an Authority was in post as a consultant, the termination of which employment was by reason of retirement and who is appointed to a consultant post in the same Authority without any significant alteration in the duties of the post..

Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau

4.  Ar ddiwedd paragraff (1) o reoliad 6 o'r prif Reoliadau (hysbysebu'r penodiad arfaethedig) mewnosoder “, and for these purposes only one of the publications may be solely in electronic form”.

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

5.—(1Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (aelodaeth pwyllgor ymgynghorol ar benodiadau) wedi'i diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 2 yn is-baragraff (b)(i) dileer “or”.

(3Ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (b)(i), mewnosoder y canlynol—

(ia)in the case of a Local Health Board, a practitioner employed within the area of the Board making the appointment,

(ib)in the case of an NHS Trust, a practitioner employed by the trust making the appointment, or.

(4Ym mharagraff 3, hepgorer “substantial”.

(5Ar ddiwedd paragraff 6 mewnosoder

and where they do so, the requirements of paragraph 2 apply with the following modifications—

(a)the Authorities are to jointly select and appoint one member meeting the requirements of each of paragraphs 2(a) and (b);

(b)where more than two Authorities act together as a single Authority, the Authorities are to each select and appoint at least one member meeting the requirements of each of paragraphs 2(c), (d) and (e);

(c)where two Authorities act together as a single Authority, one of the Authorities is to select and appoint two members, and the other is to select and appoint one member, meeting the requirements respectively of each of paragraphs 2(c), (d) and (e)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996 (“Rheoliadau 1996”).

Mae Rheoliadau 2, 3 a 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau sy'n cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 1996 i ymddiriedolaethau'r GIG, ynghyd â nifer o fân ddiwygiadau eraill.

Mae Rheoliad 3(5) yn creu dau esemptiad newydd rhag y gofyniad bod rhaid cynnal Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau i benodi ymgynghorydd. Mae'r esemptiad cyntaf yn gymwys i berson sydd wedi bod mewn swydd fel ymgynghorydd gyda gwasanaethau meddygol y fyddin, y llynges neu'r llu awyr ac sy'n cael ei benodi i swydd ymgynghorydd yn un o'r cyrff y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt a hynny heb symud ei leoliad a heb fod y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth y swydd yn newid mewn unrhyw ffordd sydd o bwys. Mae'r ail esemptiad yn gymwys i ymgynghorydd sy'n ymddeol ond sydd wedyn yn dychwelyd i swydd debyg iawn yn yr un corff, er y gall telerau ei gyflogaeth fod wedi'u newid.

Mae Rheoliad 4 yn caniatáu i un o'r hysbysebion ar gyfer penodi ymgynghorydd fod ar ffurf electronig.

Mae Rheoliad 5 yn nodi'r union ofynion ar gyfer aelodaeth Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau pan fo dau gorff neu fwy y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt yn cydweithredu i sefydlu Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau.

(1)

1977 (p.49). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”) a pharagraffau 4 a 37 o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) (“Deddf 2001”) a pharagraffau 5 a 13 o Ran 1 o Atodlen 5 iddi, ac adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) (“Deddf 2002”). Diwygiwyd paragraff 10(1) o Atodlen 5 gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41) a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, adrannau 5 a 24 o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) a Rhan I o Atodlen 8 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”) a pharagraff 60(c) o Atodlen 1 iddi, ac adrannau 6(1)(a) a (b) o Ddeddf 2001. Diwygiwyd paragraff 12(b) o Atodlen 5 gan adran 1 o Ddeddf 1990, a pharagraff 9 o Ran III o Atodlen 1 iddi, adrannau 2(1) a 5(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 60(e) o Atodlen 1 iddi, ac Atodlen 3 iddi, ac adran 65(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 4, 39(1) a (4)(b) o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd Atodlen 5B gan adran 6(2) o Ddeddf 2002 ac Atodlen 4 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999).

(2)

1990 (p.19). Diwygiwyd adran 5(7) gan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a pharagraff 69(d) o Atodlen 1 iddi. Mewnosodwyd paragraffau 16(4)-(6) o Atodlen 2 gan adran 6(3)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15).

(3)

O.S. 1996/1313 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1250.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources