Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2916 (Cy.213)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 138(7) a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraff 5 o Atodlen 8 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19, 20, 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(3) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005, ac maent yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(4);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(5).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Prif Reoliadau

2.  Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 3(1)—

(a)o flaen y diffiniad o “tir a ariennir yn gyhoeddus” mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005;;

(b)yn lle'r diffiniad o “Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf” rhodder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor y diffiniad canlynol—

ystyr “y Rheoliadau 2005 addasedig” (“the modified 2005 Regulations”) yw Rheoliadau 2005 fel y maent yn effeithiol gydag addasiadau yn rhinwedd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 3 iddynt;.

4.  Yn rheoliad 10(1), rhodder y geiriau “Rheoliadau 2005 addasedig” yn lle'r geiriau “Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf”.

5.  Yn lle rheoliad 11 rhodder y canlynol—

11.  Rhaid i'r offeryn llywodraethu newydd gael ei wneud yn unol â gofynion Rhan 5 o'r Rheoliadau 2005 addasedig a chydymffurfio â'r gofynion hynny..

6.  Yn lle rheoliad 12 rhodder y canlynol—

12.  Mae Rheoliadau 2005 yn gymwys i'r offeryn llywodraethu newydd y cyfeirir ato yn rheoliad 11 gyda'r addasiadau a nodir yn Atodlen 3..

7.  Yn rheoliad 13(1), rhodder y geiriau “Rheoliadau 2005 addasedig” yn lle'r geiriau “Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf”.

8.  Yn rheoliad 15(4), rhodder y geiriau “noddwyr-lywodraethwyr” yn lle'r geiriau “llywodraethwyr cyfetholedig ychwanegol”.

9.  Ar ôl rheoliad 15, mewnosoder y canlynol—

15A.  At ddibenion rheoliadau 14 a 15, pan nad yw'r awdurdod addysg lleol wedi gwneud offeryn llywodraethu ar gyfer y corff llywodraethu cyfredol yn unol â Rheoliadau 2005, mae'r categorïau cyfatebol o lywodraethwr fel a ganlyn—

Categori llywodraethwr cyfredolCategori llywodraethwr o dan Reoliadau 2005
Llywodraethwr cyfetholedigLlywodraethwr cymunedol
Llywodraethwr cynrychioliadolLlywodraethwr cynrychioliadol
Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio)Llywodraethwr sefydledig
Llywodraethwr AALlLlywodraethwr AALl
Rhiant-lywodraethwrRhiant-lywodraethwr
Llywodraethwr partneriaethLlywodraethwr partneriaeth
Staff-lywodraethwrStaff-lywodraethwr
Athro-lywodraethwrAthro-lywodraethwr
Pennaeth (llywodraethwr ex officio)Pennaeth (llywodraethwr ex officio)

10.  Yn lle Atodlen 3 rhodder yr Atodlen 3 ddiwygiedig a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Rheoliad 10

YR ATODLEN

ATODLEN 3Darpariaethau Rheoliadau 2005 a addaswyd o ran yr Offerynnau Llywodraethu a grybwyllir yn Rheoliadau 10, 11 a 12 o'r Prif Reoliadau

Mae'r rheoliadau yn Rheoliadau 2005 a bennir yng ngholofn chwith y tabl isod yn effeithiol o ran yr offerynnau llywodraethu a grybwyllir yn rheoliadau 10, 11 a 12 gyda'r addasiadau a bennir yng ngholofn dde y tabl.

Y ddarpariaethYr addasiad
Rheoliad 33(1)(b)Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “neu y bydd yn perthyn iddo” wedi'u mewnosod ar ôl “y perthyn yr ysgol iddo”.
Rheoliad 33(1)

Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl rheoliad 33(1)(e)—

(ee)pan fydd yr ysgol yn dod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir, yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, enw unrhyw gorff sefydledig neu berson a chanddo hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig ac, os oes mwy nag un person o'r fath a chanddo hawl i benodi, y sail y gwneir penodiadau o'r fath arni o ran y newid categori ac ar ôl hynny pan fo swyddi gwag i'w llenwi;.

Rheoliad 33(2)Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”.
Rheoliad 34 le—

Mae'r rheoliad hwnnw'n effeithiol fel petai'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor a'r canlynol wedi'i roi yn ei le—

34.(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â gwneud offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol sy'n newid ei chategori yn unol ag Atodlen 8 i Ddeddf 1998.

(2) Rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu newydd a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.

(3) Pan fo gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu y cynigir y dylai fod gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol onid yw wedi'i gymeradwyo gan y canlynol—

(a)y llywodraethwyr sefydledig sy'n bodoli eisoes;

(b)os nad oes unrhyw lywodraethwyr sefydledig yn bodoli eisoes, y personau y cynigir y dylai fod hawl ganddynt i benodi llywodraethwyr sefydledig;

(c)unrhyw ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol;

(ch)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a

(d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodwyd o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn ysgol grefyddol ei chymeriad, y corff crefyddol priodol.

(4) Ar ôl cael y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â phob darpariaeth statudol sy'n gymwys, ac—

(a)os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio felly, neu

(b)os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu os cynigir y dylai fod gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllwyd ym mharagraff (3) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,

rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

(5) Os, yn achos ysgol y mae ganddi lywodraethwyr sefydledig neu y cynigir y dylai fod ganddi lywodraethwyr sefydledig, y bydd y personau a restrir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg â'r drafft, caiff unrhyw un o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi unrhyw gyfarwyddyd y gwêl yn dda gan roi sylw, yn benodol, at y categori o ysgol y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo.

(6) Os yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig neu os na chynigir y dylai fod ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—

(a)hysbysu'r corff llywodraethu o'r rhesymau pam nad yw'n fodlon ar yr offeryn llywodraethu drafft, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb gydag ef ynglŷn â diwygio'r drafft;

a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y cytunwyd rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (os nad oes cytundeb o'r fath) ar unrhyw ffurf y gwêl yn dda, gan roi sylw, yn benodol, i'r categori o ysgol y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo.

(7) Wrth gymryd unrhyw benderfyniad ynglŷn ag enw'r ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod addysg lleol ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu os cynigir y dylai gael llywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllwyd ym mharagraff (3), roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru..

Rheoliad 35(4)Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)”.
Rheoliad 35(5)(b)Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)”.
Rheoliad 35(6)Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)” ac fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”.
Rheoliad 35(7)Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”.
Rheoliad 37Mae rheoliad 37 wedi'i hepgor.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 (“y Prif Reoliadau”). Mae'r Prif Reoliadau'n gwneud darpariaeth i ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig ddod yn gategori ysgol arall o fewn y categorïau hynny, i ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig ac i ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu hefyd Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Mae'r diwygiadau a'r addasiadau hyn yn ganlyniad i ddiddymu Atodlen 12 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Ddeddf Addysg 2002 a gwneud Rheoliadau 2005.

Mae Rheoliadau 3 i 9 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r addasiadau yn y Prif Reoliadau sy'n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu ysgolion sy'n newid categori.

Mae Rheoliad 10 a'r Atodlen yn nodi'r darpariaethau addasedig yn Rheoliadau 2005 sy'n ymwneud â gwneud offerynnau llywodraethu ysgolion sy'n newid categori a chynnwys yr offerynnau llywodraethu hynny. Mae'r Atodlen yn rhoi Atodlen 3 newydd i'r Prif Reoliadau yn lle'r hen un.

(1)

1998 p.31. I gael y diffiniad o “regulations”, gweler adran 142(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.

(3)

2002 p.32. I gael y diffiniad o “regulations”, gweler adran 212(1).