Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2915 (Cy.212)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “corff llywodraethu” (“governing body”) o ran ysgol a gynhelir yn cynnwys corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;

mae cyfeiriad at “derbynneb” (“receipt”) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau swm y gwariant; ac

mae “llywodraethwr” (“governor”) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro.

Dirymu

3.  Dirymir Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999(3) o ran Cymru.

Ysgolion sydd â chyllidebau dirprwyedig

4.—(1Caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig wneud taliadau ar ffurf lwfansau yn unol â'r rheoliad hwn i aelod o'r corff llywodraethu hwnnw neu o unrhyw bwyllgor o'r corff llywodraethu hwnnw.

(2Rhaid i daliadau a wneir o dan baragraff (1) fod yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan y corff llywodraethu at ddibenion y Rheoliadau hyn ac ni chaiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o'r corff llywodraethu ac aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nac o ran categorïau gwahanol o lywodraethwr neu aelod pwyllgor.

(3Ni cheir gwneud taliadau dan baragraff (1) ond o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan aelod o'r corff llywodraethu at ddibenion ei alluogi i gyflawni ei ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel aelod o bwyllgor o'r corff llywodraethu.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 7, rhaid i daliadau o dan baragraff (1) fod ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu a'u gwneud pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.

Ysgolion nad oes ganddynt gyllidebau dirprwyedig a sefydliadau eraill.

5.—(1Mae'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi fel lwfansau y caiff awdurdod addysg lleol eu talu yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed ganddynt at ddibenion adran 519 o Deddf Addysg 1996,—

(a)i lywodraethwr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;

(b)i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau);

(c)i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.

(2Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel person a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reol 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.

6.—(1Pan nad oes gan ysgol a gynhelir gyllideb ddirprwyedig, caiff yr awdurdod addysg lleol dalu'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) isod i aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nad ydynt yn llywodraethwyr yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan yr awdurdod at y diben hwnnw.

(2Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau mewn perthynas â gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel aelod o bwyllgor ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.

(3Ni chaiff cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wneud darpariaeth wahanol o ran categorïau gwahanol o aelod pwyllgor.

Taliadau teithio a chynhaliaeth

7.  Ni chaiff unrhyw daliadau o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer treuliau teithio a chynhaliaeth fod yn uwch na chyfraddau a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000 (4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn dirymu'r Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer talu lwfansau i lywodraethwyr ac i aelodau o bwyllgorau nad ydynt yn llywodraethwyr gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer talu lwfansau gan yr awdurdod addysg lleol i'r personau a ganlyn:

  • llywodraethwyr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;

  • aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr o bwyllgorau corff llywodraethu ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig; a

  • personau a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol mewn sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau), neu ar gorff llywodraethu ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.

Rhaid talu cyfraddau teithio a chynhaliaeth ar gyfradd nad yw'n uwch na'r hyn a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhaid talu treuliau eraill pan ddarperir derbynneb ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2002 p. 32. . I gael ystyr “regulations” gweler adran 212(1).

(2)

1996 p. 56. Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 519 a 569(4) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672). Cafodd adran 519 ei diwygio gan baragraff 139 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).

(4)

2000 p.22. Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002, O.S. 2002/1895 (Cy.196).