Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu
33.—(1) Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol a gynhelir nodi—
(a)enw'r ysgol;
(b)y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo;
(c)enw corff llywodraethu'r ysgol;
(ch)y cyfansoddiad a fydd i'r corff llywodraethu yn unol â Rhan 3, gan bennu—
(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr,
(ii)y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a
(iii)cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;
(d)pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(dd)pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig—
(i)enw unrhyw un sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath,
(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir, a
(iii)enw unrhyw un sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;
(e)pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);
(f)pan fo ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â'r ysgol, y ffaith honno;
(ff)pan fo ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad o ethos crefyddol yr ysgol; ac
(g)y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym, na chaiff fod cyn 1 Ionawr 2006.
(2) Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.
(3) Pan fo'n berthnasol, at ddibenion Rhan 3, penderfynu faint o ddisgyblion cofrestredig sydd yn yr ysgol, penderfynir y nifer honno fel pe ar y dyddiad y gwneir yr offeryn.
(4) Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol.