xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
31. Yn y Rhan hon,
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” gan adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;
ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”), mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol nad yw'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw'r corff y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â'r grefydd neu'r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo.
32. Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion i ymdrin â hwy mewn offerynnau o'r fath, ffurf offerynnau o'r fath, ac adolygu ac amrywio offerynnau o'r fath, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
33.—(1) Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol a gynhelir nodi—
(a)enw'r ysgol;
(b)y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo;
(c)enw corff llywodraethu'r ysgol;
(ch)y cyfansoddiad a fydd i'r corff llywodraethu yn unol â Rhan 3, gan bennu—
(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr,
(ii)y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a
(iii)cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;
(d)pan fo cyfnod swydd categori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(dd)pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig—
(i)enw unrhyw un sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath,
(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir, a
(iii)enw unrhyw un sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;
(e)pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr cynrychioladol o dan reoliad 15(4) neu (5);
(f)pan fo ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â'r ysgol, y ffaith honno;
(ff)pan fo ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad o ethos crefyddol yr ysgol; ac
(g)y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym, na chaiff fod cyn 1 Ionawr 2006.
(2) Rhaid i'r ffordd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y nodir yn unol ag is-baragraff (1) (ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ysgol yn y categori y perthyn yr ysgol iddo.
(3) Pan fo'n berthnasol, at ddibenion Rhan 3, penderfynu faint o ddisgyblion cofrestredig sydd yn yr ysgol, penderfynir y nifer honno fel pe ar y dyddiad y gwneir yr offeryn.
(4) Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol.
34.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol.
(2) Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol hyd nes y bydd wedi ei gymeradwyo gan—
(a)y llywodraethwyr sefydledig;
(b)unrhyw ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;
(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac
(ch)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(3) Pan geir y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau statudol cymwys, ac—
(a)os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio fel hynny, neu
(b)os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllir ym mharagraff (2) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys,
rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(4) Os bydd y personau a restrir ym mharagraff (2), yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(5) Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (3) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—
(a)roi gwybod i'r corff llywodraethu pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft, a
(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;
a rhaid iddo wneud yr offeryn llywodraethu naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a'r corff llywodraethu yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(6) Yn achos ysgol feithrin a gynhelir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol baratoi a gwneud yr offeryn llywodraethu cyntaf.
35.—(1) Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.
(2) Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod addysg lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.
(3) Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.
(4) Pan fo gan ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â rhoi i'r awdurdod addysg lleol—
(a)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2), na
(b)hysbysu'r awdurdod o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod,
oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 34(2) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.
(5) Os—
(a)yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir, neu
(b)oes cytundeb rhwng yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau eraill a restrir yn rheoliad 34(2) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach,
rhaid i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.
(6) Os bydd, yn achos ysgol sydd â llywodraethwyr sefydledig, y personau a restrir yn rheoliad 34(2) ar unrhyw adeg yn anghytuno â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(7) Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol—
(a)rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—
(i)pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu, neu yn ôl fel y digwydd,
(ii)pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun, a
(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categori o ysgol y perthyn yr ysgol iddo.
(8) Ni ddylid ystyried bod dim yn y rheoliad hwn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.
(9) Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn—
(a)rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym; a
(b)mae rheoliad 33(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'r corff llywodraethu i'w gyfansoddi fel petai'n cyfeirio at y dyddiad y gwneir yr amrywiad yn hytrach na'r dyddiad y gwneir yr offeryn.
36.—(1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau y darperir yn rhad ac am ddim i'r personau a nodir ym mharagraff (2)—
(a)copi o offeryn llywodraethu'r ysgol, a
(b)os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu ysgol, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod addysg lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).
(2) I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
(a)pob aelod o gorff llywodraethu'r ysgol;
(b)y pennaeth, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;
(c)ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig â'r ysgol;
(ch)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a
(d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
37. Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu yn unol â'r Rheoliadau hyn—
(a)ar gyfer pob ysgol feithrin a gynhelir ganddo, erbyn 31 Mawrth 2006 fan bellaf, a
(b)ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir ganddo, erbyn 31 Awst 2008 fan bellaf.