- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—
(a)person a etholir yn unol â pharagraffau 4 i 9 o Atodlen 1 yn llywodraethwr gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ac sydd ei hun yn rhiant o'r fath pan gaiff ei ethol, neu
(b)person a benodir yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1.
(2) Anghymhwysir person rhag bod yn rhiant-lywodraethwr yn unol â pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1 os yw—
(a)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol;
(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu
(c)yn cael ei dalu i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 awr mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf,
os nad yw'n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol.
(3) Nid anghymhwysir person rhag parhau i fod yn rhiant-lywodraethwr pan beidia â bod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol neu pan beidia â bodloni unrhyw rai o'r gofynion a nodir ym mharagraffau 11 a 12 o Atodlen 1 (yn ôl fel y digwydd) onis anghymhwysir fel arall o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae Atodlen 1 yn gymwys i ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.
5.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—
(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan athrawon ysgol yn yr ysgol, a
(b)sydd ei hun yn athro neu athrawes ysgol o'r fath pan etholir ef neu hi.
(2) Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
6.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—
(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol ond nid fel athrawon ysgol, a
(b)sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;
ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(2) Pan fo offeryn llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir yn gwneud darpariaeth yn unol â rheoliad 14(3), ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—
(a)a etholir yn unol ag Atodlen 2 yn llywodraethwr gan bersonau a gyflogir i weithio yn yr ysgol, a
(b)sydd ei hun yn berson a gyflogir yn y cyfryw fodd pan etholir ef;
ac at y diben hwn, ystyr “a gyflogir” (“employed”) yw a gyflogir o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau.
(3) Pan fydd yn gorffen gweithio yn yr ysgol anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
7.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr AALl” (“LEA governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod addysg lleol.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr AALl ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro- lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.
8.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr gan y corff llywodraethu ac sydd—
yn berson sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol, neu
yn berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, yn ymrwymedig i lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol;.
ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 20.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi na pharhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol ysgol os yw—
(a)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr i'r ysgol.
(3) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n llywodraethwr cymunedol ysgol os yw'n aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn achos llywodraethwr cymunedol ychwanegol.
9.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr ac eithrio gan yr awdurdod addysg lleol ac—
pan fo gan yr ysgol gymeriad crefyddol arbennig(1), a benodir at ddiben sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw,
pan fo ymddiriedolaeth yn ymwneud â'r ysgol, a benodir at ddiben sicrhau y rhedir yr ysgol yn unol â'r ymddiriedolaeth honno, neu
pan nad oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol a phan nad oes ymddiriedolaeth yn ymwneud â hi, a benodir yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol;
ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sy'n ddeiliad swydd y mae ganddo hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd y swydd honno;
ystyr “dirprwy lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio—
sy'n anfodlon neu'n methu â gweithredu fel llywodraethwr,
sydd wedi ei ddiswyddo fel llywodraethwr o dan reoliad 27(2), neu
os yw'r swydd sy'n rhoi bod i swydd llywodraethwr o'r fath yn wag.
(2) Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio, pan beidia â dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni, rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o'r fath.
10.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol ag Atodlen 3.
(2) Anghymhwysir person rhag cael ei enwebu na'i benodi'n llywodraethwr partneriaeth ysgol os yw—
(a)yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol ;
(b)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(c)yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr i'r ysgol;
(ch)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol; neu
(d)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol.
11. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir yn llywodraethwr o'r fath gan y corff llywodraethu yn unol ag Atodlen 4.
12. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychioliadol” (“representative governor”) yw person a benodir yn llywodraethwr o'r fath yn unol â pharagraffau (4) neu (5) o reoliad 15.
Fel y dynodir drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998. Gweler Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999, O.S. 1999/1814 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004, O.S. 2004/1734 (Cy. 177).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: