- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
9.—(1) “Rhiant-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd—
(a)gan yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf; neu
(b)gan yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos.
(2) Os oes un neu fwy o ysgolion a gynhelir wedi'u cau, neu i'w cau (“yr ysgolion a gaewyd”), ac y disgwylir i ddisgyblion cofrestredig yr ysgol honno neu'r ysgolion hynny, neu nifer sylweddol o'r disgyblion hynny, drosglwyddo i ysgol newydd, fe gaiff
(a)yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf, neu
(b)yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,
ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o riant-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.
(3) Ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol wirfoddol a reolir gan awdurdod addysg lleol, ac ni chaniateir gwneud unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) uchod mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a reolir, oni bai bod yr awdurdod addysg lleol wedi ymgynghori â'r hyrwyddwyr yn gyntaf.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol newydd oni bai—
(a)ei fod yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol neu sy'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi; neu
(b)os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person o'r fath, ei fod yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir newydd rhiant i blentyn o oedran neu o dan ysgol gorfodol.
(5) Ni chaniateir i neb gael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro ysgol sydd neu a fydd yn ysgol gymunedol arbennig neu'n ysgol sefydledig arbennig sydd heb gael ei sefydlu mewn ysbyty oni bai ei fod—
(a)yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol neu sy'n debyg o ddod yn ddisgybl cofrestredig ynddi;
(b)yn rhiant i blentyn o oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;
(c)yn rhiant i berson o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu
(ch)yn rhiant i blentyn o ysgol oedran gorfodol.
(6) Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth yn yr is-baragraff yn union o'i flaen y ceir penodi person y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o baragraff (5).
(7) Anghymhwysir person rhag cael ei benodi'n rhiant-lywodraethwr dros dro os yw—
(a)yn aelod etholedig o'r awdurdod addysg lleol;
(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau fel awdurdod addysg lleol; neu
(c)yn cael ei dalu, neu'n debyg o gael ei dalu, i weithio yn yr ysgol am fwy na 500 o oriau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Awst ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.
(8) Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd rhiant-lywodraethwr dros dro pan yw'n peidio â bodloni unrhyw un o'r gofynion a nodwyd ym mharagraffau (5) a (6), oni bai ei fod wedi'i anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn mewn ffordd arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: