- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
11.—(1) “Athro-lywodraethwr dros dro” yw person sydd wedi'i benodi'n aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn yr achos cyntaf, rhaid i athro-lywodraethwr dros dro gael ei benodi gan y corff llywodraethu dros dro.
(3) Yn yr ail achos, rhaid i athro-lywodraethwr dros dro fod yn berson sydd wedi'i enwebu gan yr hyrwyddwyr ac wedi'i benodi gan yr awdurdod addysg lleol.
(4) Os oes un neu fwy o ysgolion a gynhelir wedi'u cau, neu i'w cau, ac y disgwylir i ddisgyblion cofrestredig yr ysgol neu'r ysgolion, neu nifer sylweddol ohonynt, drosglwyddo i ysgol newydd, fe gaiff
(a)yr awdurdod addysg lleol, yn yr achos cyntaf, neu
(b)yr hyrwyddwyr, yn yr ail achos,
ddarparu i gorff llywodraethu yr ysgol neu'r ysgolion a gaewyd benodi rhai neu'r cyfan o athro-lywodraethwyr dros dro yr ysgol newydd.
(5) Ni chaniateir gwneud unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) uchod mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a reolir oni bai bod yr awdurdod addysg lleol wedi ymgynghori â'r hyrwyddwyr yn gyntaf.
(6) Ni chaniateir i neb gael ei enwebu na'i benodi yn athro-lywodraethwr dros dro oni bai ei fod yn athro neu athrawes ysgol a gyflogir mewn ysgol a gynhelir.
(7) Pan fydd yn peidio â gweithio mewn ysgol a gynhelir, anghymhwysir athro-lywodraethwr dros dro rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr dros dro o'r fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: