Search Legislation

Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2005 Rhif 2911 (Cy.208)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 33(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999(2).

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

(2Mae unrhyw gyfeiriad mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn—

(a)at y corff llywodraethu neu gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;

(b)at riant yn gyfeiriad at riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;

(c)at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir o fewn ystyr “maintained school” yn adran 39(1) o Ddeddf 2002.

Esemptiad ar gyfer ysgolion arbennig ysbytai ac ysgolion byrddio.

4.  Mae corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni—

(a)os yw'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig a gafodd ei sefydlu mewn ysbyty a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno; neu

(b)os yw'r ysgol yn ysgol a gynhelir heblaw un o fewn paragraff (a), a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno, a bod o leiaf 50% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn ddisgyblion byrddio ar yr adeg y ffurfir y farn honno gan y corff llywodraethol.

Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfod ar ôl arolygiad

5.  Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir gan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni am y flwyddyn ysgol y caiff y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (b) ei gynnal—

(a)os cafodd yr ysgol ei harolygu o dan adran 10 o Deddf Arolygu Ysgolion 1996(3) gan arolygydd cofrestredig, ac

(b)os yw'r corff llywodraethu, o fewn y cyfnod a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru)1998(4) ar gyfer paratoi cynllun gweithredu, wedi cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo i drafod adroddiad yr arolygydd cofrestredig.

Esemptiad i ysgolion sy'n cynnal cyfarfodydd eraill

6.  Os bydd y corff llywodraethu, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, yn cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo, neu gyfres o gyfarfodydd a bod pob rhiant yn cael gwahoddiad i o leiaf un o'r gyfres, a bod—

(a)rhieni dim llai na 20% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn mynychu'r cyfarfod neu o leiaf un mewn cyfres;

(b)rhieni yn cael cyfle yn y cyfarfod neu ym mhob un o'r gyfres o gyfarfodydd (yn ôl y digwydd) i drafod y dull y cafodd yr ysgol ei rhedeg, a'r dull y bydd yn cael ei rhedeg, a pherfformiad yr ysgol, ac

(c)tri neu fwy o lywodraethwyr yn mynychu'r cyfarfod neu bob cyfarfod yn y gyfres (yn ôl y digwydd),

mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni ar gyfer y flwyddyn ysgol y cynhelir y cyfarfod neu (yn ôl y digwydd) gyfres y cyfarfodydd ynddi.

Esemptiad os nad yw rhieni yn ymateb i'r hysbysiad o gyfarfod

7.  Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir o dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn unrhyw flwyddyn ysgol pan fydd yn rhoi i rieni gydag adroddiad y llywodraethwyr hysbysiad yn gofyn i rieni ddatgan yn ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig nad yw'n llai na 7 niwrnod os yw'n ofynnol ganddynt i'r corff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni a bod rhieni llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig yn ymateb o fewn y cyfnod penodedig.

Datgymhwyso esemptiadau

8.  Nid yw'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 ac 7 yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn ysgol—

(a)os na chafodd cyfarfod blynyddol rhieni ei gynnal yn y flwyddyn flaenorol; neu,

(b)os yw'r corff llywodraethu, cyn 31 Mai yn y flwyddyn ysgol honno, yn cael cais ysgrifenedig gan rieni dim llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud o dan adran 33(3) o Deddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer esemptio cyrff llywodraethu ysgolion rhag y gofyniad cyffredinol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn amgylchiadau penodol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

Mae rheoliad 2 yn dirymu y Rheoliadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999.

Dyma'r amgylchiadau y bydd corff llywodraethu yn esempt rhag y gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni danynt:

Rheoliad 4— os, yn achos ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig, yw'r ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty neu os yw'r ysgol yn ysgol fyrddio a gynhelir a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni;

Rheoliad 5— os cafodd yr ysgol ei harolygu gan Estyn ac y cafodd cyfarfod rhieni ei gynnal i drafod adroddiad yr arolygydd cyn bod y corff llywodraethu yn llunio'i gynllun gweithredu;

Rheoliad 6— os yw'r corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo neu iddynt ac a gafodd ei fynychu neu eu mynychu (yn ôl y digwydd) gan dri neu fwy o lywodraethwyr ac os yw'r rhieni wedi cael cyfle i drafod rhedeg yr ysgol yn y gorffennol ac yn y dyfodol;

Rheoliad 7— os yw'r corff llywodraethu yn rhoi i rieni gyda'i Adroddiad hysbysiad yn gofyn i rieni ymateb o fewn dim llai na 7 niwrnod os ydynt yn dymuno i'r corff llywodraethu gynnal y cyfarfod blynyddol rhieni ac os yw rhieni llai na 5% o'r disgyblion yn ymateb.

Mae rheoliad 8 yn datgymhwyso'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 a 7 os na chynhaliwyd cyfarfod blynyddol rhieni yn y flwyddyn flaenorol neu os yw'r corff llywodraethu yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth rieni 5% neu fwy o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod o'r fath.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2002 p. 32. I gael diffiniad “regulations” gweler adran 212.

(4)

O.S. 1998/1866. Diwygiwyd rheoliad 8(1) gan O.S. 2004/784 (Cy. 81).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources