xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2910 (Cy.207) (C.124)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

18 Hydref 2005

Yn dod i rym

31 Hydref 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Diwrnod penodedig

4.  31 Hydref 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005

Erthygl 4

YR ATODLENDarpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Hydref 2005

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 19(1) i (7)Cyrff llywodraethu
Adran 20(1) i (3), (5)Offerynnau llywodraethu
Adran 23Clerc y corff llywodraethu
Adran 33Cyfarfodydd blynyddol rhieni
Adran 34Trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd
Adran 39Dehongli Pennod 1
Adran 52(11)Gwahardd disgyblion
Adran 53Targedau presenoldeb
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 1 i'r graddau nad yw eisoes mewn grymYmgorffori Corff Llywodraethu a Phwerau Corff Llywodraethu
Atodlen 21Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraff 12;
Paragraffau 23 a 25;
Paragraff 26;
Paragraff 27(3);
Paragraff 28;
Paragraff 29;
Paragraffau 35 i 38;
Paragraff 39(2) i (4);
Paragraffau 40 i 44;
Paragraff 50;
Paragraff 52;
Paragraff 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Paragraff 58;
Paragraff 59 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Paragraffau 60 i 62;
Paragraff 63 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Paragraffau 64 a 65;
Paragraff 67;
Paragraff 92 i 94;
Paragraff 98(3);
Paragraff 99(2) a (3)(a);
Paragraffau 101 i 103;
Paragraff 106;
Paragraff 110(2);
Paragraff 110(3)(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff (h) is-adran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
Paragraff 110(3)(c) ac eithrio o ran paragraffau (n), (o), (p) a (q) newydd is-adran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
Paragraff 112 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Paragraff 118(6);
Paragraff 127.
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu—Diddymiadau
Deddf Addysg 1994(3), adran 4(4);
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(4), Yn Atodlen 4A, yn y Tabl ym mharagraff 1, paragraff 3;
Deddf Addysg 1996(5), adran 29(6), yn adran 316A (11)(b) y geiriau “a maintained nursery school or”, yn adran 317 is-adran (3)(b) a'r gair “and” sy'n dod o'i blaen, yn adran 329A (13)(a), y geiriau “a maintained nursery school or”;
Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996(6), yn adran 11(5), paragraff (b), yn adran 15(4)(c) y geiriau “except where the school is a maintained nursery school”, yn adran 21, yn is-adran (3)(b) y geiriau “except in the case of a maintained nursery school”, yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “appropriate authority” ym mharagraff 1, paragraff (b);
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7), adrannau 36 a 37 adran 43, adran 44, yn adran 63, yn is-adrannau (1) a (3) y gair “unauthorised” ac, yn is-adran (4), y diffiniad o “unauthorised absence”, adran 127(6)(h), yn adran 138, yn is-adran (2)(b), y geiriau “paragraph 3(5) or 4 of Schedule 10”, Atodlenni 9 a 10, Atodlen 11 i'r graddau nad yw eisoes wedi'i diddymu, Atodlen 12.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Hydref 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—

Mae adrannau 19, 20, 23, 33, 34, 39 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan ddisodli amryw o ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”). Mae adran 19 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir gael corff llywodraethu. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion sy'n ymwneud ag aelodaeth o gyrff llywodraethu a gweithdrefnau'r cyrff hynny.

Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir feddu ar offeryn llywodraethu sy'n pennu cyfansoddiad y corff llywodraethu a materion eraill ynglŷn â'r ysgol. Bydd Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion o ran gwneud offerynnau llywodraethu a chynnwys yr offerynnau hynny.

Mae adran 23 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i gyrff llywodraethu gydweithio drwy gyflawni eu swyddogaethau ar y cyd neu drwy gydbwyllgorau.

O dan adran 33 rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y mae corff llywodraethu yn esempt rhag cynnal cyfarfod.

Mae adran 34 yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd. Mae'n ofynnol i'r AALl sefydlu corff llywodraethu dros dro. Nodir y manylion ynglŷn â'r trefniadau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau. Yn benodol mae'r diffiniad o 'maintained school' yn cynnwys 'maintained nursery school'. Effaith hyn yw bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.

Mae cychwyn adran 52(11) yn golygu bod y darpariaethau ynghylch gwahardd disgyblion o ysgolion a gynhwysir yn adran 52 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae adran 53 yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1998 er mwyn caniatáu i'r Cynulliad gynnwys absenoldebau awdurdodedig yn y targedau y gellir ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu eu pennu drwy reoliadau.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran (19)(6) (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 21 a 221 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adrannau 27 a 281 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 291 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 301 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 321 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 39(1) (yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 40 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 414 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 424 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 431 Tachwedd 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 461 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 5031 Mai 20052005/1395 (Cy.109)
Adran 51 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)31 Mai 20052005/1395 (Cy.109)
Adran 52 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 641 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 721 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 75 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 120(2)1 Awst 20032003/1667
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adrannau 122 i 1291 Awst 20032003/1667
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn llawn)1 Awst 20032003/1667
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 1401 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 15431 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 1551 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 15631 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adrannau 157 i 1741 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 1761 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 1771 Awst 20042004/912 (Cy.95)
Adran 178(1) a (4)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 1851 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1971 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 19831 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 1991 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 2031 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 2061 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 207 a 2089 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)31 Mai 20052005/1395 (Cy.109)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 51 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 49 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 1131 Mai 20052005/1395 (Cy.109)
Paragraff 12(1), (3) i (5)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 91 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 1519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7,19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 71 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 31 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 191 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 201 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)31 Mai 20052005/1395 (Cy.109)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)31 Mai 20052005/1395 (Cy.109)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.