- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 ymhellach, sef O.S. 2002/1416 (“Rheoliadau 2002”), sydd, yng Nghymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweinyddu Rheoliad CE Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a Chyngor 22 Mai 2001 a gyflwynodd reolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar achosion o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy. Y Rheoliadau diwygio eraill yw O.S. 2004/2735 ac O.S. 2005/1392.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhannol weithredu Erthygl 16a Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/CE 25 Hydref 1995 sy'n pennu'r egwyddorion sy'n rheoli'r gwaith o drefnu arolygiadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L 265, 8.11.1995, t.17). Cynhwyswyd Erthygl 16a gan Gyfarwyddeb 2001/46 y Cyngor Ewropeaidd a'r Cyngor (OJ Rhif L 234, 1.9.2001, t. 55). Cynhwysir y ddarpariaeth berthnasol yn rheoliad newydd 25B Rheoliadau 2002, a gynhwyswyd gan reoliad 7 y Rheoliadau hyn.
Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn.
Diwygir rhai diffiniadau a gynhwysir yn rheoliad 3 Rheoliadau 2002 (Rheoliad 3).
Mae rheoliad newydd 10A ac Atodlen newydd 1A Rheoliadau 2002 yn darparu ar gyfer y broses o ladd gwartheg dros 30 mis oed i bobl eu bwyta, a chynnal profion arnynt ac mae rheoliad newydd 10(B) yn ei gwneud yn drosedd i anfon anifal buchol a anwyd neu a fagwyd yn y DU cyn 1af Awst 1996 i ladd-dy. (Rheoliad 4 a'r Atodlen).
Diwygir Rheoliad 23 Rheoliadau 2002 er mwyn darparu ar gyfer y defnydd o safleoedd i gynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod. (Rheoliad 5.)
Mae rheoliad newydd 25A Rheoliadau 2002 yn cynnwys darpariaethau pellach ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod ac mae rheoliad newydd 25B yn gysylltiedig â rhoi samplau o fwydydd i labordai. (Rheoliad 7.)
Diwygir Rheoliad 33 Rheoliadau 2002 i ddarparu o'r newydd ar gyfer cael gwared ar ddeunydd â risg benodol o garcas anifail buchol a laddwyd i bobl ei fwyta. (Rheoliad 9.) (Diffinnir “specified risk material” yn rheoliad 3(1) Rheoliadau 2002.)
Mae rheoliad newydd sy'n gysylltiedig â chael gwared ar linyn cefn defaid a geifr yn cymryd lle Rheoliad 37 Rheoliadau 2002. (Rheoliad 11.)
Mae rheoliad newydd sy'n gysylltiedig â stampio carcasau wyn a geifr ifanc y mae eu dueg a'u hilëwm wedi'u tynnu allan yn cymryd lle Rheoliad 38 Rheoliadau 2002. (Rheoliad 12.)
Darperir ar gyfer y cosbau am droseddau o dan Atodlen 6A Rheoliadau 2004. (Rheoliad 15.)
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Y Gangen Endemig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: