- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
10.—(1) Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—
(a)sy'n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)sy'n wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano i'r ceisydd.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a roddir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)disgrifiadau o bersonau sy'n cynnig cwnsela; a
(b)y ffioedd y gellir eu codi gan y personau hynny.
(3) Os yw person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn am gael cwnsela, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol sicrhau bod gwasanaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
(4) Caiff yr asiantaeth gyfryngol ddarparu'r gwasanaethau cwnsela hynny eu hunan neu wneud trefniadau ag unrhyw un o'r personau canlynol am ddarpariaeth cwnsela—
(a)os yw'r person yng Nghymru neu yn Lloegr, asiantaeth fabwysiadu arall neu asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig arall;
(b)os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu Albanaidd;
(c)os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu a gofrestrwyd o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987(1) neu oddi wrth unrhyw Fwrdd; neu
(ch)os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb o ran ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Bwrdd” yw Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1972(2) neu pan fo swyddogaethau bwrdd yn arferadwy gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ymddiriedolaeth honno.
(6) Pan nad yw gwasanaethau cwnsela ar gael i wrthrych heblaw gwasanaethau y mae'n rhaid talu amdanynt ac mae'r gwrthrych yn dewis peidio â'u defnyddio, er hynny rhaid i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu cymorth a chynorthwy i'r gwrthrych wrth iddo benderfynu ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: