Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005

RHAN 6Y COFRESTRYDD CYFFREDINOL

Holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol

17.—(1Os bydd —

(a)person mabwysiedig sydd wedi cael ei 18 oed yn gofyn am wybodaeth gan asiantaeth fabwysiadu o dan adran 60(2)(a) o'r Ddeddf, a fyddai'n ei alluogi i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni; a

(b)nad yw'r wybodaeth honno gan yr asiantaeth,

rhaid i'r asiantaeth holi am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol.

(2Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan baragraff (1), rhaid i'r asiantaeth roi'r wybodaeth ganlynol iddo yn ysgrifenedig, i'r graddau y mae'n hysbys—

(a)enw, dyddiad geni a gwlad enedigol y person mabwysiedig;

(b)enw tad neu fam mabwysiol y person hwnnw;

(c)dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.

Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r asiantaeth fabwysiadu briodol a'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu

18.—(1Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol —

(a)datgelu i unrhyw berson (gan gynnwys person mabwysiedig) unrhyw wybodaeth y mae'n gofyn amdani y mae ei hangen arno i'w gynorthwyo i gysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu sef yr asiantaeth fabwysiadu briodol yn achos y person a bennir yn y gofyniad (neu, yn ôl y digwydd, yn achos y ceisydd); a

(b)datgelu i'r asiantaeth fabwysiadu briodol unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan yr asiantaeth o ran cais o dan adran 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf, ynghylch unrhyw gofnod sy'n ymwneud â pherson mabwysiedig ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu(1).

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dalu unrhyw ffi y dyfarna'r Cofrestrydd Cyffredinol ei bod yn rhesymol ar gyfer datgelu gwybodaeth o dan baragraff (1)(b).

(3Yn y rheoliad hwn mae i “asiantaeth fabwysiadu briodol” yr ystyr a roddir i “appropriate adoption agency” gan adran 65(1) o'r Ddeddf.

(1)

I gael diffiniad o Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu gweler “Adoption Contact Register” yn adran 80 o'r Ddeddf.